Mwy o Newyddion
Dim anrhydeddau'r Orsedd i chwaraewyr Cymru yn yr eisteddfod eleni
Mae Gorsedd y Beirdd wedi llongyfarch tim pel-droed Cymru ar ei lwyddiant ym mhencampwriaeth Ewro 2016, ond gan ddweud na fydd yr un aelod, na'r rheolwr, yn derbyn yr un goban eleni.
Roedd nifer o bobol ar wefan gymdeithasol Facebook wedi galw ar i'r pêl-droedwyr, yr hyfforddwyr, a'r garfan yn gyfan gael eu gwneud yn aelodau o'r Orsedd, wedi iddyn nhw wneud cystal a chyrraedd rownd gyn-derfynol y bencampwriaeth yn Ffrainc, a gwneud cyfri' da ohonyn nhw'u hunain, yr iaith a'r wlad.
Ond, tra mae Cofiadur Gorsedd y Beirdd, Penri Tanad, yn cyd-lawenhau yn llwyddiant y tim cenedlaethol, mae'n egluro mewn datganiad heddiw pam na fydd Chris Coleman, Gareth Bale, Ashley Williams, Aaron Ramser, Joe Ledley na Joe Allen, ymhlith eraill fel Osian Roberts, David Vaughan ac Owain Fon Williams, yn cael eu anrhydeddu yn Y Fenni fis Awst.
"Rwy’n sicr y byddai holl aelodaeth Gorsedd y Beirdd yn ymuno gyda mi i longyfarch ein tîm cenedlaethol ar eu llwyddiant anhygoel draw yn Ffrainc," meddai. "Gallwn ymfalchïo ym mhob agwedd o’u llwyddiant ar, ac oddi ar y meysydd pêl-droed ac yn sicr mae gan y genedl arwyr newydd.
"Estynnwn ein llongyfarchiadau nid yn unig i’r chwaraewyr ond hefyd i’r rheolwr Chris Coleman, ei dîm hyfforddi ymroddedig ac i Gymdeithas Pêl-droed Cymru a roddodd Cymru a’r iaith Gymraeg ar fap y byd mewn ffordd mor gyffrous. Gan ategu’r gair a ddefnyddiwyd gan y tîm eu hunain, gallwn ninnau weiddi – 'Diolch'.
"Rydym i gyd wedi gweld y negeseuon lu dros y cyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar am gamp ein tîm pêl droed, gan alw i Orsedd y Beirdd gydnabod eu llwyddiant yn Ffrainc, yn yr Eisteddfod eleni," meddai'r Prifardd Penri Roberts wedyn.
"Fel pawb a phopeth arall, mae gan yr Orsedd ei rheolau, a dim ond aelodau’r Orsedd sydd â’r hawl i enwebu/eilio ein cyd-Gymry ar gyfer eu hanrhydeddu ac wrth gwrs mae’n ofynnol bod y person a enwebir yn siarad Cymraeg.
"Nid oes gan swyddogion Yr Orsedd unrhyw hawl i gyflwyno anrhydeddau y tu allan i’r system honno, gan mai Panel Yr Urddau sy’n gorfod penderfynu pa geisiadau sy’n gymwys. Mae holl anrhydeddau’r Orsedd ar gyfer yr Eisteddfod eleni yn Y Fenni, eisoes yn hysbys i bawb."
Beth am 2017?
Yn ei ddatganiad, mae Penri Roberts yn agor y drws ar i aelodau'r Orsedd ddechrau meddwl am enwebu aelodau o garfan Cymru sy'n medru siarad Cymraeg i gael eu hurddo i'r Orsedd y flwyddyn nesaf yn Sir Fon.
"Gallaf ddychmygu y bydd enwau diddorol iawn ar y rhestr o enwebiadau ar gyfer 2017," meddai. "Rwyf hefyd yn sicr y bydd yr Archdderwydd newydd Geraint Llifon (ffan arall o’r tîm cenedlaethol) yn cyfeirio at lwyddiant tîm pêl-droed Cymru o’r Maen Llog yn Y Fenni ar ddechrau mis Awst eleni.
"Fe greodd tîm pêl-droed Cymru hanes yn ystod yr wythnosau diwethaf yma," meddai, "ac rwy’n sicr y byddwn ni i gyd yn morio mewn llawenydd coch am amser hir - ac am flynyddoedd i ddod fe all miloedd ohonom ddatgan, 'Roeddwn i yno!' A do, fe fu Cofiadur Gorsedd y Beirdd draw yn Ffrainc, yn un o’r miloedd lwcus i fod â thocyn i’r gêm gyntaf ym Mordeaux, profiad a fydd yn aros gyda mi am weddill fy oes.
"Wrth sefyll i ganu’r anthem genedlaethol, ymysg môr o grysau coch fe deimlais i emosiwn na theimlais erioed o’r blaen a phrin y gallwn i ganu’r geiriau," meddai.
"Roedd ein cenedl fechan ni ar y llwyfan rhyngwladol go iawn, a’r iaith Gymraeg i’w chlywed ym mhobman. Meddyliwch o ddifri – dangoswyd y gair 'llongyfarchiadau' ar y sgriniau o amgylch y meysydd lle y bu Cymru’n chwarae. Diwrnod hollol anhygoel oedd y diwrnod hwnnw draw yn ne orllewin Ffrainc.
"Gallaf ddychmygu y bydd beirdd ein cenedl hefyd yn brysur yn creu cerddi o foliant yn ystod yr wythnosau nesaf yma. Ar ran Gorsedd y Beirdd – llongyfarchiadau i bawb a fu’n rhan o’r llwyddiant rhyfeddol hwn."