Mwy o Newyddion
Atgyfodi hen arf - Y Lolfa yn argraffu sticeri Cymraeg unwaith eto
Mae gwasg Y Lolfa wedi cynhyrchu sticeri ‘Cymraeg!’ newydd gan atgofodi hen arf a fu'n boblogaidd iawn ym mrwydr yr iaith yn ystod yr 1960au.
Argraffwyd y rhai cyntaf erioed gan gwmni Gwenlyn Evans yng Nghaernarfon ar gais Penri Jones a Robat Gruffudd ym 1962 er mwyn eu plastro dros goridorau Seisnigaidd Coleg Bangor.
Roedd hyn yn rhan o frwydr to newydd o fyfyrwyr yn erbyn gwrth-Gymreigrwydd y Coleg o dan y Prifathro Charles Evans.
Pan sefydlodd Robat Gruffudd gwmni'r Lolfa ym 1967 fe gynhyrchodd sticeri ei hun a'u gwerthu trwy siopau a thrwy Tafod y Ddraig, cylchgrawn Cymdeithas yr Iaith.
Buont yn gwerthu'n wych am ddegawdau i aelodau'r Gymdeithas ac eraill.
Yn trafod y penderfyniad o ail gynhyrchu’r sticeri, fe ddywedodd Robat Gruffudd: "Mae'r angen am sticeri Cymraeg yn dal mor fawr ag erioed - er gwaethaf pawb a phopeth!"
Mae'r sticeri newydd yn rhai crwn, deniadol, mewn dau liw sy'n gwerthu am £2 am rolyn o 100 trwy siopau neu am £3 post rhad o'r Lolfa.
Gellir hefyd eu prynu o stondin Y Lolfa ym maes eisteddfod Y Fenni ym mis Awst.
Mae 100 o Sticeri Cymraeg (£2, Y Lolfa) ar gael nawr.