Mwy o Newyddion

RSS Icon
11 Gorffennaf 2016

Cred bron i draean o gyhoedd Cymru bod Carwyn Jones yn iawn i roi swydd i Kirsty Williams, yr unig Ddemocrat Rhyddfrydol etholedig, yn y Cabinet

Dengys pôl piniwn diweddaraf Beaufort ar gyfer y Western Mail y cytuna 32% o oedolion yng Nghymru bod y Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi gwneud y peth iawn wrth roi swydd i Kirsty Williams, yr unig Ddemocrat Rhyddfrydol etholedig i Gynulliad Cymru, yn y Cabinet.

Fodd bynnag, cred un rhan o bump (20%) na ddylai’r Prif Weinidog wedi rhoi swydd i’r AC Democrat Rhyddfrydol yn y Cabinet. Ni chafwyd ateb gan bron i hanner (48%) o’r 1,000 o oedolion a arolygwyd.

Roedd y rhai a oedd fwyaf tebygol o ddweud bod Carwyn Jones yn iawn i roi swydd i Kirsty Williams yn y Cabinet yn:

  • Bobl hŷn 55+ oed (42%, o’i gymharu â 32% ar y cyfan)
  • Y rhai hynny a oedd yn byw yng Ngogledd Cymru1 a Gorllewin De Cymru2 (37% a 35% yn y drefn honno)
  • A’r rhai hynny sydd yn y graddau cymdeithasol-economaidd uwch – ABC13 (37% o’i gymharu â 28% C2DE3)

I’r gwrthwyneb, y rhai mwyaf tebygol o anghytuno â phenodiad Kirsty Williams i’r Cabinet yn y Cynulliad Cenedlaethol oedd:

  • Rhai 35-54 oed (24% o’i gymharu ag 20% ar y cyfan)
  • Y rhai hynny sy’n byw yn y Cymoedd4 a Chaerdydd a De Ddwyrain Cymru5 (26% a 25% yn y drefn honno, o’i gymharu ag 20% ar y cyfan)

Y rhai hynny oedd fwyaf tebygol o ddweud nad oeddent yn gwybod oedd:

  • Pobl iau 16-34 oed (62% o’i gymharu â 48% ar y cyfan)
  • Merched (51% o’i gymharu â 45% o ddynion)
  • Y rhai hynny yn byw yng Nghanolbarth / Gorllewin Cymru6 (56% o’i gymharu â 48% ar y cyfan), sydd efallai’n syndod o ystyried mai Kirsty Williams yw’r Aelod Cynulliad ar gyfer Brycheiniog a Sir Faesyfed yng Nghanolbarth Cymru
Rhannu |