Mwy o Newyddion
Diolch o Gatalonia
Mae Aelodau Seneddol o Blaid Cymru wedi eu anrhydeddu gan ddirprwyaeth o seneddwyr ac ymwelwyr o Gatalonia am eu gwaith yn codi ymwybyddiaeth yn Senedd y DG o'r argyfwng cyfansoddiadol sy'n wynebu llywodraeth Catalonia.
Diolchwyd i Hywel Williams AS am ei gefnogaeth ac am gyflwyno Cynnig Bore Bach, a gefnogwyd gan nifer o ASau o wahanol bleidiau. Yr oedd y CBB yn galw am gefnogaeth i Statud Ymreolaeth Catalonia 2006 yn dilyn penderfyniad annemocrataidd llys cyfansoddiadol Sbaen yn Madrid i ddiddymu adrannau allweddol o'r statud.
Llofnodwyd neges o gefnogaeth I Mr Williams gan dros 11,000 o Gatalaniaid. Ddydd Llun yn Llundain daeth dros 100 o Gatalaniaid i San Steffan i ddiolch i Mr Williams, Elfyn Llwyd a Jonathan Edwards yn bersonol .
Dywedodd Mr Williams: “Rwy'n falch iawn o’r cyfle i gyfarfod cynifer o gynrychiolwyr o Gatalonia a datgan fy nghefnogaeth i'w gwaith diflinio dros gael gwrandawiad i ofynion democrataidd cwbl rhesymol pobl eu gwlad. Bu’n anrhydedd i mi fedru chwarae rhan bach yn yr ymgyrch.
“Mae Catalonia yn genedl. Felly mae'r Catalaniaid yn gweld pethau, ac yn sicr, dyma hefyd yw en barn ni.
“Cyflwynais y CBB i alluogi fy nghyd-ASau i ddangos cefnogaeth ac uniaethu gyda phobl Catalonia a'u hawl i ddewis natur eu dyfodol democrataidd drostynt eu hunain.
“ Mae'r dyfarniad hwn gan lys Madrid ac a orfodwyd ar lywodraeth Catalonia gan lywodraeth Sbaen yn cyfyngu cwmpas pwerau datganoledig yng Nghatalonia – sydd yn llwyr tanseilio'r refferendwm democrataidd a gynhaliwyd yn 2006. Mae hefyd yn golygu nad oes modd i Gatalonia gael ei chydnabod yn gyfreithiol fel cenedl gan yr hawlir mai Sbaen yw unig 'genedl' y wladwriaeth.
“Bydd hyn yn taro tant cryf gyda chenhedloedd datganoledig y DG.
“Hawdd ydy deall dicter y Catalaniaid – mae llys Sbaen wedi llwyr danseilio eu system ddemocrataidd.
“Rhaid i ddyfodol pobl Catalonia fod yn eu dwylo nhw eu hunain - a neb arall.”