Mwy o Newyddion

RSS Icon
11 Gorffennaf 2016

“Anrhydeddwch addewidion ymgyrchwyr Brexit i Gymru” medd Leanne Wood wrth yr ymgeiswyr am arweinyddiaeth y Torïaid

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi ysgrifennu at y ddwy ymgeisydd yn yr etholiad am arweinyddiaeth y Ceidwadwyr, gan alw arnynt i anrhydeddu’r addewidion a wnaed i Gymru gan yr ymgyrch Gadael.

Dywedodd Leanne Wood y dylid anrhydeddu’r addewidion a wnaed i bobl Cymru.

Galwodd hefyd ar i wleidyddion Ceidwadol o Gymru i ymuno â’r frwydr, gan eu rhybuddio, oni chedwir yr addewidion a wnaed, y byddant hwy eu dal yn gyfrifol am y difrod a chosir i gymunedau Cymru.

Wrth ysgrifennu at y ddwy ymgeisydd at yr arweinyddiaeth, dywedodd Leanne Wood: “Yng ngoleuni’r ffaith i chi gyrraedd rhestr fer derfynol am yr etholiad am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol, a’r ffaith y byddwch wedyn yn Brif Weinidog y Deyrnas Gyfunol, carwn dynnu eich sylw at y llw a wnaed i bobl Cymru gan y sawl oedd yn hyrwyddo ymadawiad y DG o’r Undeb Ewropeaidd yn ystod ymgyrch y refferendwm yn ddiweddar."

Ymysg yr addewidion a wnaed i bobl Cymru yr oedd:

  • y bydd gwerth £490 miliwn y flwyddyn o gyllid ar gael i GIG Cymru, sef cyfran Cymru o’r arbedion honedig o £350 miliwn yr wythnos i’r DG  ar ôl tynnu allan o’r UE;
  •  y gwarchodir lefel y cyllid mae Cymru ar hyn o bryd yn dderbyn gan raglenni’r UE a’r cronfeydd strwythurol, gan gynnwys arian ar gyfer prifysgolion Cymru a’r sector gwyddoniaeth a thechnoleg;
  •  y bydd y gefnogaeth taliadau uniongyrchol a dderbynnir gan ffermwyr Cymru o leiaf yn cyfateb i’r hyn a dderbynnir trwy’r Polisi Amaethyddol Cyffredin; ac
  •  y gallai’r DG reoli ei ffiniau a pharhau i fasnachu gyda’r UE ar delerau ffafriol i fusnesau Cymru.

"Pleidleisiodd pobl Cymru i adael yr UE. O’r herwydd, rwy’n disgwyl, ac y mae pobl Cymru yn disgwyl, petaech yn cael eich ethol yn arweinydd y Blaid Geidwadol ac yna’n dod yn Brif Weinidog y DG, y byddwch yn sicrhau y cedwir yr addewidion hyn yn llawn. Mae Cymru eisoes yn cael ei thangyllido diolch i ddiffygion fformiwla Barnett, ac felly byddai methiant i anrhydeddu’r addewidion uchod yn ergyd arall i ragolygon economaidd Cymru.

"Buaswn hefyd yn gofyn am sicrwydd gennych, petaech chi’n Brif Weinidog, y gwarentir hawliau dinasyddion yr UE adeg Brexit i aros yn y DG heb ofn na rhwystr.”

Wrth alw ar wleidyddion Ceidwadol yng Nghymru, dywedodd: “Llwyddodd yr ymgyrch Gadael ar sail llw i bobl Cymru, a bydd Plaid Cymru yn ymgyrchu dros gadw’r llw honno.

"Ond mae angen i wleidyddion Ceidwadol yng Nghymru hefyd fod yn rhan o’r frwydsr hopn hefyd – ymgyrchodd llawer ohonynt dros bleidlais Gadael ac adleisio’r addewidion hyn, a dylent fod yn gweithio yn awr i ofalu bod yr addewidion hynny yn cael eu cadw.

"Dylai Ceidwadwyr yng Nghymru hefyd fod yn ysgrifennu ar yr ymgeiwyr am arweinyddiaeth y Toriaid ac yn galw arnynt i anrhydeddu’r addewidion, neu fe fyddant yn cael eu dal yn gyfrifol am amddifadu Cymru o biliynau o arian sy’n ddyledus i ni, gan ddifrodi ein cymunedau.

“Yn dilyn y bleidlais i adael yr UE, mae Plaid Cymru wedi torchi ein llewys ac wedi gweithio i sicrhau dyfodol Cymru. Mae’n bryd i’r pleidiau eraill wneud yr un peth.”

Rhannu |