Mwy o Newyddion
Buddugoliaeth i ymgyrchwyr wrth i gyllid cynllun atal llifogydd Bontnewydd gael ei ryddhau
Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru Arfon Siân Gwenllian ynghyd â’r Aelod Seneddol Hywel Williams wedi croesawu newyddion fod cyllid ar gyfer cynllun i atal llifogydd ym Montnewydd wedi ei ryddhau o’r diwedd gan Lywodraeth Cymru yn dilyn oedi hir, gan alw ar i’r gwaith gychwyn cyn gynted â phosib.
Bu pobl leol yn pryderu os na fyddai’r arian yn cael ei ryddhau yn fuan yna gallai’r gwaith ar y cynllun atal llifogydd gael ei ohirio, gan achosi gofid a phryder i’r trigolion, a oedd eisoes yn ofni ailadrodd llifogydd y llynedd.
Cafwyd cyfarfod cyhoeddus yn ddiweddar dan gadeiryddiaeth Siân Gwenllian AC er mwyn trafod y cynllun atal llifogydd.
Meddai: “Rwy'n falch iawn y gall trigolion Bontnewydd ddechrau rhoi'r bennod ofnadwy yma a arweiniodd at lifogydd mewn naw o gartrefi y tu ôl iddyn nhw.”
“Mae’r llusgo traed gan Lywodraeth Cymru ers dros chwe mis wedi bod yn anffodus iawn gan achosi pryder mawr i drigolion lleol ond yr wyf yn gobeithio y gall y gwaith symud ymlaen cyn gynted ag y bo modd fel y gellir ei gwblhau cyn y gaeaf a chyn bygythiad o fwy o stormydd a llifogydd.
“Ar ôl cysylltu’n bersonol â’r Gweinidog Amgylchedd a Materion Gwledig i bwysleisio pwysigrwydd rhyddhau’r arian, rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru o’r diwedd wedi cydnabod pa mor frys oedd y mater.
“Mae trigolion Bontnewydd wedi bod yn hynod amyneddgar ac maent yn haeddu gweld contractwyr ar y safle a’r gwaith yn cychwyn cyn gynted â phosib.”
Dywedodd Hywel Williams AS: “Mae’n hynod bwysig fod y gwaith yn cychwyn cyn gynted â phosib fel bod mesurau i liniaru unrhyw lifogydd yn y dyfodol mewn lle cyn y gaeaf. Mae’r teuluoedd a’r unigolion sydd wedi dioddef yn sgil y llifogydd yn byw mewn gobaith na ddigwyddith hyn fyth eto.
“Mi fydd trigolion lleol yn falch fod yr arian a addawyd iddynt ar gyfer y cynllun atal llifogydd rŵan ar gael fel bod mesurau i liniaru effaith llifogydd yn cael ei roi ar waith.”
“Rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru o’r diwedd wedi rhyddhau'r arian pwysig yma ar ôl misoedd o oedi.”
Llun: Siân Gwenllian AC gyda rhai o drigolion Glan yr Afon Bontnewydd