Mwy o Newyddion
Undeb Amaethwyr Cymru yn croesawu bod yn rhan o’r broses gynllunio o adael y UE
Croesawodd Undeb Amaethwyr Cymru y cyfle i fod yn rhan o’r trafodaethau eang ynglŷn â dyfodol amaethyddiaeth a’r economi wledig yng Nghymru wedi’r bleidlais i adael yr UE.
Cynhaliodd Llywodraeth Cymru y cyfarfod cyntaf yn ymgysylltu â’r budd-ddeiliaid yng Nghaerdydd ar ddydd Llun, a thanlinellwyd y flaenoriaeth sydd angen ei roi i’r sialens o adael portffolios yr amgylchedd, amaethyddiaeth a materion gwledig.
Cadeirydd y cyfarfod oedd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig a bu’r Prif Weinidog Carwyn Jones yn bresennol am y rhan fwyaf o’r cyfarfod.
“Mae’r sefyllfa’n dipyn o sialens, ond hefyd yn gyfle gwych ar yr un pryd,” dywedodd Glyn Roberts, Llywydd yr Undeb.
“Mae yna gyfle nawr i ganolbwyntio ar greu ffordd hollol newydd a mwy addas o reoli a chefnogi amaethyddiaeth yma yng Nghymru. Mae’n rhaid i ni achub ar y cyfle yma a gweithio gyda’n gilydd er mwyn sicrhau’r canlyniad gorau posib, ac un sy’n cydnabod bod amaethyddiaeth yn hollbwysig.
“Ond, mae’n rhaid i ni beidio anghofio pwysigrwydd y fferm deuluol yma yng Nghymru, nac ychwaith pwysigrwydd amaethyddiaeth i’r economi wledig.”
Yn gynharach yn y dydd, cynhaliodd yr Undeb ei chyfarfod mewnol cyntaf o gadeiryddion y canghennau sirol a chadeiryddion y pwyllgorau sefydlog ers y refferendwm, i drafod y sialensiau a hefyd ymateb yr Undeb.
"Roedd negeseuon clir iawn yn deillio o'r cyfarfod," meddai Mr Roberts.
"Mae llawer o ffermwyr yn poeni am gyflwr ac ymrwymiad i gytundebau presennol ac mae'n rhaid i ni sicrhau eglurder iddyn nhw. Roeddwn yn gwerthfawrogi’r cyfle i godi'r materion hyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet, Lesley Griffiths ac i ofyn am eglurhad gan Lywodraeth Cymru, ac rydym yn gobeithio derbyn y rhain dros y diwrnodau nesaf."
"Roedd yr adborth gan ein haelodau y bore yma hefyd yn gadarnhaol," ychwanegodd Mr Roberts.
"Rwy'n cael yr argraff bod pawb wedi derbyn ein bod yn sefyllfa yr ydym ni ynddi, ac mae'n rhaid ymgysylltu'n rhagweithiol ac yn frwdfrydig er mwyn paratoi dyfodol gwell.
"Rydym yn gwybod ei bod yn anodd iawn ar hyn o bryd i amlinellu cynllun clir, nid lleiaf oherwydd bod y sefyllfa wleidyddol yn San Steffan yn newid yn gyflym, ond byddwn yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru, sefydliadau ac adrannau, yn ogystal â’r Llywodraeth yn Llundain er mwyn sicrhau’r canlyniad gorau i Gymru. Bydd hyn yn cymryd amser, ond rydym yn falch o fod yn rhan o hyn o’r cychwyn cyntaf.”
Llun: Lesley Griffiths