Mwy o Newyddion
Dathlu'r croeso i dîm Cymru ar BBC Cymru
Bydd darllediadau byw o’r digwyddiadau i groesawu tîm pêl droed Cymru yn ôl adref ar draws gwasanaethau BBC Cymru, gan ddilyn y dathliadau bob cam o’r ffordd.
Bydd darllediadau helaeth o’r tîm yn cyrraedd yn ôl i Gymru, yn ogystal â digwyddiad Croeso’r Cefnogwyr, ar gael ar deledu, radio ac ar-lein yn Gymraeg ac yn Saesneg.
BBC Cymru fydd yr unig ddarlledwr fydd â chamerâu a newyddiadurwyr gyda’r tîm ar eu gorymdaith mewn bws agored drwy ganol dinas Caerdydd yfory (Gwener, Gorffennaf 7), ar y ffordd i’r digwyddiad yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Bydd Rob Phillips a Catrin Heledd ar y bws gyda thîm Cymru wrth iddyn nhw gael eu cyfarch ar hyd y daith gan y cefnogwyr.
Bydd y darllediad yn caniatáu i gefnogwyr ledled Cymru deimlo’n rhan o’r digwyddiad hanesyddol, gyda chwaraewyr, staff a chefnogwyr yn dathlu’r llwyddiant gyda’i gilydd.
Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru: “Mae tîm pêl-droed Cymru wedi ysbrydoli cenedl yn ystod y bencampwriaeth hon, sydd wedi gweld y nifer fwyaf erioed o wylwyr yng Nghymru yn gwylio, rhannu a bod yn rhan o’u gorchestion hanesyddol.
"Mae cefnogwyr Cymru, yn Ffrainc a gartref, yn deilwng o’r clod sy’n cael ei rhoi iddyn nhw am eu teyrngarwch, eu hangerdd a’u cefnogaeth ddi-ildio ac wrth i’r tîm baratoi i ddod adref i groeso brwd, bydd BBC Cymru unwaith eto wrth galon y cyfan yn darlledu’r dathliadau llawen i gefnogwyr ar hyd a lled Cymru.”
Wrth i Chris Coleman a’i dîm a’i staff ddychwelyd adref i Gymru, bydd BBC Cymru yn darlledu’n fyw wrth iddyn nhw gyrraedd Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd.
Mae’r digwyddiad yn y stadiwm yn mynd i gynnwys perfformiadau gan Mike Peters o The Alarm, The Barry Horns, Chris Phillips, Kizzy Crawford a set arbennig gan y Manic Street Preachers. Bydd Chris Coleman a’r chwaraewyr hefyd ar y llwyfan i rannu eu profiadau o EURO 2016.
Bydd yr holl gyffro ar gael ar BBC One Wales a bydd ffrwd fyw ar wefan BBC Cymru Fyw a gwefan BBC Wales News. Bydd darllediadau radio o’r holl ddigwyddiadau ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales, a darlledu byw hefyd yn Gymraeg ar S4C.