Mwy o Newyddion
Partneriaeth y Gadeirlan yn lansio cynllun newydd i helpu’r Digartref yng nghylch Bangor
Mae Cadeirlan Bangor a Tai Gogledd Cymru, yn gweithio gyda’i gilydd fel Partneriaeth y Gadeirlan, wedi lansio menter newydd i geisio rhoi help llaw i bobl ddigartref, o bosib yn eu helpu canfod llety mwy parhaol.
Mae Cadeirlan Bangor a Thîm Estyn Allan ac Ailgartrefu Tai Gogledd Cymru wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd fel Partneriaeth y Gadeirlan i gefnogi pobl ddigartref yn ardal Bangor am dros 10 mlynedd. Mae’r prosiect newydd hwn yn arwydd bod y Gadeirlan yn mynd o nerth i nerth.
Mae gan Tai Gogledd Cymru Wasanaeth Digartrefedd sy’n gallu helpu’r digartref, neu unigolion sydd mewn peryg o fod yn ddigartref. Mae’r rhain yn cynnwys dwy hostel i’r digartref ym Mangor, sef Y Santes Fair a Pendinas, yn ogystal â Thîm Estyn Allan ac Ailgartrefu sydd wedi’i ganoli ym Mangor ac wrth law i gynnig cyngor ar dai a chanfod cefnogaeth a chynnal a chadw llety.
Mae’r fenter newydd yn golygu y gall Swyddogion Tai Gogledd Cymru gynnig llety am hyd at 3 noson i bobl sy’n cysgu ar y stryd, yn enwedig yn ystod tywydd gwlyb ac oer, gan wybod bod cronfa ddynodedig gan Gadeirlan Bangor yn talu am gostau llety.
Mae Cadeirlan Bangor a Tai Gogledd Cymru wedi cydweithio ar gynllun tebyg yn cynnig talebau bwyd i bobl ddigartref, sydd wedi bod ar fynd ers 10 mlynedd. Mae’r cynllun hwn bellach yn dosbarthu dros 70 o dalebau bwyd pob mis.
Y Parch Ganon Randolph Ellis ydy Caplan Stryd Fawr Cadeirlan Bangor: “Rydw i wrth fy modd bod Partneriaeth y Gadeirlan yn medru cynnig y fenter newydd hon.
"Fy ngobaith a’m gweddi i ydy y bydd y cyfnod byr hwn o hoe i bobl ddigartref hyn yn fan cychwyn i’w helpu nhw symud o’r meddylfryd o ystyried y stryd yn gartref iddyn nhw.
"Rydw i’n arbennig o ddiolchgar i gymwynaswyr y gronfa arbennig yma yng Nghadeirlan Bangor. Mae pob punt o’u haelioni yn cynnig rhywfaint o amser i bobl ddigartref gael seibiant, yn ogystal â’u helpu i gychwyn eu siwrne tuag at ryw fath o lety.”
Meddai Dale Rose, sy’n Swyddog Estyn Allan ac Ailgartrefu tai Gogledd Cymru: “Pan edrychwch chi ar y niferoedd hynny o bobl sy’n cysgu ar soffas ffrindiau, y rheini mewn llety hostel yn ogystal â’r bobl sy’n cysgu ar y stryd, mae’r cyfanswm yn dod i bron i 300 o bobl yng Ngwynedd sydd â lletya yn broblem iddyn nhw.
"Bydd y fenter newydd hon yn rhoi’r cyfle inni gynnig ychydig o nosweithiau o sefydlogrwydd i bobl, a fydd yn ei dro yn caniatáu amser i ni geisio rhoi trefn ar ychydig o bethau, megis llenwi ffurflenni llety, er enghraifft.”
Ychwanegodd ei gydweithiwr, Aled Bebb, Gweithiwr Cefnogi Ailgartrefedd: “Yn ein gwaith, byddwn yn cyfeirio atyn nhw fel ‘y digartref cudd’, gan nad ydyn ni’n dueddol o weld pobl yn cysgu ar y stryd ym Mangor ei hun, gan eu bod ar y cyfan yn unigolion ac felly’n teimlo’n saffach tu allan i’r ddinas.
"Mae’r rhan fwyaf o’r bobl hyn yn teimlo na chawson nhw degwch gan gymdeithas ac wedi suddo i anobaith.
"Diolch i’n gwaith ninnau gyda Chadeirlan Bangor, medrwn gynnig rhywfaint o fwyd a chynhesrwydd iddyn nhw am noswaith neu ddwy, gyda’r gobaith efallai am gychwyn newydd."
Dywedodd Deon Bangor, Y Tra Pharch Kathy Jones: “Mae gweithredu cymdeithasol yn rhan bwysig a gwerthfawr o dystiolaeth Gristnogol.
"Y dyddiau hyn, ddylai’r un ohonon ni fodloni derbyn bod pobl yn ein hardal yn credu nad oes dewis ganddyn nhw ond cysgu ar y stryd.
"Rydw i wrth fy modd fod Cadeirlan Bangor wedi gallu datblygu ei gwaith gyda Tai Gogledd Cymru i gefnogi rhai o bobl fwyaf bregus ein cymdeithas.”