Mwy o Newyddion

RSS Icon
06 Gorffennaf 2016

Leanne Wood - Rhaid cyfoesi Mesur Cymru

Mae’n drueni fod Mesur Cymru yn methu â rhoi i Gymru bwerau cyfartal gyda gweddill cenhedloedd datganoledig y DG, medd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood.

Dywedodd Leanne Wood fod dyfodol y DG mewn cyflwr anwadal o ganlyniad i’r bleidlais Adael, a bod digwyddiadau bellach wedi goddiweddyd Mesur Cymru. Mae’n iawn i Fesur Cymru gael ei ddiwygio er mwyn rhoi cydraddoldeb i Gymru gyda deddfwriaethau datganoledig eraill yn y DG, meddai.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood: “Mae’r penderfyniad i dynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd yn golygu fod holl ddyfodol y Deyrnas Gyfunol yn mawr mewn cyflwr ansefydlog. Dylid cael dadl genedlaethol lawn ynghylch dewisiadau at y dyfodol i ail-ymuno â’r Undeb Ewropeaidd, gan dderbyn y byddai hyn yn galw am i ddewis gael ei wneud o’r newydd gan bobl Cymru yn y dyfodol.

“Ond Mesur Cymru yw’r cyfrwng priodol ar gyfer y newidiadau tymor-byr hynny sydd eu hangen ac a allai ddod â’n cenedl i fyny at lefel debyg o gymhwysedd â deddfwriaethau datganoledig eraill y DG.

“Mae Plaid Cymru yn gresynnu at y ffaith fod Mesur Cymru arfaethedig Llywodraeth y DG yn brin o gynnig pwerau tebyg i’r rhai sydd ar gael i’r Alban neu a gynigir iddynt.

“Dyma ni mewn sefyllfa arall eto fyth lle goddiweddwyd Mesur Cymru gan ddigwyddiadau, ac efallai y dylai’r Ysgrifennydd Gwladol ystyried mai’r Mesur hwn, petai’n troi’n ddeddf, fydd y pumed tro i ddatganoli gael ei newid yng Nghymru.

“Nid yw’r ffaith fod gennym bumed newid i ddatganoli ar ein dwylo yn adlewyrchu llawer ar haelioni San Steffan. Mae’n adlewyrchu’r ffaith fod pob model y rhoddwyd prawf arno wedi bod yn anghynaliadwy.

“A ninnau wedi cael un Ysgrifennydd Gwladol ar ôl y llall yn hawlio y bydd eu mesur datganoli yn ‘setlo’r ddadl am genhedlaeth’ – a chawsom hyn gan o leiaf bedwar Ysgrifennydd Gwladol hyd yma – ac nad yw fyth yn digwydd, yna mae rhywbeth mawr o’i le.”

Rhannu |