Mwy o Newyddion

RSS Icon
06 Gorffennaf 2016

Nifer yr athrawon yng Nghymru yn parhau i ostwng wrth i'r nifer o staff cymorth gynyddu

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg wedi cyhoeddi ei grynodeb ystadegau cyntaf sy'n cynnwys athrawon ysgol ac addysg bellach gyda diwrnod cyfrifiad o 1 Mawrth 2016.

Mae’r crynodeb yn ffynhonnell unigryw o ddata am athrawon ysgol cofrestredig yng Nghymru, ac am y tro cyntaf, athrawon addysg bellach hefyd.

Fe ostyngodd cyfanswm nifer y cofrestriadau athro ysgol am y chweched flwyddyn yn olynol wrth i nifer yr athrawon newydd gymhwyso, penaethiaid a chofrestriadau gwirfoddol ddirywio yng Nghymru.

Mae'r proffesiwn addysgu yng Nghymru yn cynnwys mwyafrif o fenywod (75%). Mae dynion yn ffurfio 24.6% o'r gweithlu, sy'n gwymp o 28% yn 2002. Fodd bynnag, mae'r proffil o ran rhywiau athrawon AB yn fwy cytbwys gyda 58.9% yn fenywod.

O ran ystod oedran athrawon ysgol yng Nghymru, mae sefyllfa Cymru yn un iach gyda dros 70% o athrawon ysgol cofrestredig o dan 50 mlwydd oed. Rhwng 2012 a 2015, bu dirywiad sylweddol yn nifer yr athrawon yn y grŵp oedran 25 ac iau, ond mae hyn wedi sefydlogi yn 2016

 Cafwyd gostyngiad hefyd yng nghanran yr athrawon ysgol cofrestredig 50 oed neu'n hŷn (30.7% ym mis Mawrth 2012 a 26.7% ym mis Mawrth 2016). Yn y categori oedran 45-49 y mae'r cynnydd blynyddol yn nifer yr athrawon ysgol cofrestredig ar ei amlycaf (10.5% ym mis Mawrth 2012 a 12.3% ym mis Mawrth 2016.)

Mae gweithlu'r athrawon AB yn fwy aeddfed nag athrawon ysgol gyda 61% o athrawon ysgol cofrestredig o dan 45 oed i'w gymharu â 40% o athrawon AB.

Mae canran yr athrawon ysgol cofrestredig sy'n siarad Cymraeg (33.3%) yn uwch na'r canran o siaradwyr Cymraeg sy'n byw yng Nghymru (23%); (Arolwg Defnydd o'r Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru 2013/14).

Mewn Saesneg, Mathemateg a Chymraeg, roedd dros 70% o athrawon ysgol cofrestredig wedi eu hyfforddi yn y pwnc uwchradd maent yn ei ddysgu, ac yn y pynciau sylfaenol, roedd tua 80% o ymarferwyr wedi eu hyfforddi yn y pynciau uwchradd maent yn eu dysgu.

Ers y gofyniad cyfreithiol newydd i staff cymorth dysgu gofrestru â CGA o 1 Ebrill 2016, mae'r data yn dangos bod 30,000 o ymarferwyr newydd wedi cofrestru â CGA gyda dros 100 o geisiadau newydd am gofrestru yn cael eu derbyn bob wythnos.

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor y Gweithlu Addysg, Hayden Llewellyn: "Mae'r ystadegau hyn yn cynnig darlun diddorol iawn o weithlu Addysg Cymru. Drwy ymestyn y gofrestr i gynnwys gweithwyr cymorth dysgu ysgol ac AB am y tro cyntaf, rydym yn elwa ar wybodaeth bwysig yng Nghymru a fydd o fudd wrth lunio polisi a chydnabod y gwaith pwysig mae'r staff hyn yn ei wneud.

"Cymru yw'r wlad gyntaf i wneud hyn ac edrychwn ymlaen at gyflwyno mwy o ddata wrth i ni groesawi gweithwyr ieuenctid a dysgwyr seiliedig ar waith i'r gofrestr o 1 Ebrill 2017."

Gallwch ddarllen y crynodeb ystadegau yn llawn drwy ymweld â'r wefan, http://cga.cymru/.

Rhannu |