Mwy o Newyddion

RSS Icon
06 Gorffennaf 2016

36,500 o ymwelwyr yn Tafwyl 2016

Fe wnaeth 36,500 o bobl fwynhau Tafwyl eleni gyda mwy nag erioed yn heidio drwy giatiau Castell Caerdydd dros y penwythnos (Sadwrn a Sul Gorffennaf 2-3) i fwynhau gŵyl gymunedol fwyaf Cymru. Bydd yr ŵyl yn parhau yn 2017 mewn lleoliad newydd dros dro cyn dychwelyd i erddi’r castell yn 2018.

Roedd ail ddiwrnod yr ŵyl, dydd Sul Gorffennaf 3, yn fwy prysur nag erioed o’r blaen gyda’r arlwy arbennig yn denu 15,500 i’r maes gan ychwanegu at y 20,000 ddydd Sadwrn a’r 1000 a ddaeth i’r digwyddiadau ffrinj drwy gydol yr wythnos.

Yn agoriad swyddogol yr ŵyl cyhoeddodd trefnwyr Tafwyl, Menter Caerdydd, y byddai'r ŵyl yn parhau flwyddyn nesa mewn lleoliad gwahanol dros dro oherwydd cystadleuaeth Cynghrair y Pencampwyr cyn dychwelyd i erddi’r castell yn 2018. Cadarnhaodd Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd, Cyngh. Phil Bale y byddai cefnogaeth y cyngor i'r ŵyl yn parhau yn ei lleoliad dros dro newydd ac yna yn y castell. 

Dywed Siân Lewis, Prif Weithredwr Menter Caerdydd: “Roedd hi’n benwythnos arbennig unwaith eto eleni ac roedd hi’n braf gallu croesawu cymaint o ymwelwyr i ddathlu diwylliant Cymraeg gyda ni. Oherwydd digwyddiad arall yng Nghastell Caerdydd yn 2017 bydd Tafwyl yn symud i leoliad newydd am flwyddyn yn unig gyda’r lleoliad i’w gyhoeddi yn y flwyddyn newydd. Rydym yn edrych ymlaen at gynnal yr ŵyl mewn lleoliad gwahanol ac yn gobeithio y gallwn ddenu cynifer o ymwelwyr i fwynhau’r ŵyl deuluol unwaith eto.”

Ymysg uchafbwyntiau’r ŵyl eleni oedd perfformiad y triawd pop o’r 90au, Eden, sesiwn goginio gyda Bryn Williams, prif gogydd y bwyty seren Michelin, Odettes, a'r rocwyr Candelas oedd yn arwain y dorf yn canu anthem Euros ‘Rhedeg i Paris’.

Eleni roedd gan yr ŵyl lysgennad newydd, yn ymuno gyda’r llysgenhadon Huw Stephens, Matthew Rhys, Alex Jones a Rhys Patchell sydd wedi cefnogi Tafwyl ers blynyddoedd. Hwn oedd profiad cyntaf Kliph Scurlock, cyn-ddrymiwr y band roc Flaming Lips, o Tafwyl wedi iddo symud i Gymru o Kansas, UDA i fwynhau’r sin roc Gymraeg a dysgu’r iaith. Dywedodd:

“Mae Tafwyl yn ŵyl wych a’r awyrgylch yn ffantastig - mor groesawgar a chymaint yn mynd ymlaen. Dwi wedi clywed cymaint o gerddoriaeth dda - rhai bandiau dwi eisoes yn gwybod amdanyn nhw a lot o fandiau newydd. Ac mae’r bwyd yn hyfryd!”

Yn dathlu ei phen-blwydd yn ddeg oedd, mae’r ŵyl yn parhau i dyfu gydag ymwelwyr o hyd a lled Cymru a’r byd yn mwynhau celfyddydau a diwylliant Cymreig y ddinas, yn siaradwyr rhugl, dysgwyr neu’n blasu’r iaith am y tro cyntaf.

Rhannu |