Mwy o Newyddion
Colli Alwyn Samuel, darlledwr a chefnogwr diwylliant Cymraeg
Un o gynhyrchwyr cynharaf BBC Radio Cymru ym Mangor oedd Alwyn Samuel a fu farw yr wythnos hon yn 90 oed.
Cyfrannodd yn helaeth i’r byd darlledu ac i weithgarwch diwylliannol Cymru ac roedd yn uchel ei barch gan bawb.
Ymunodd â’r Gorfforaeth yn nechrau’r chwedegau wedi iddo fod yn brifathro yn Ysgol Gymraeg Pontrhydyfen, gerllaw bro ei febyd yng Nghwmafan. Daeth nifer o’i ddisgyblion yn adnabyddus ac un ohonynt oedd Clive Harpwood, prif leisydd Edward H Dafis.
Cyn iddo fod yn brifathro bu’n drefnydd yr Urdd yng ngorllewin Morgannwg.
Roedd y diwylliant Cymraeg yn agos iawn at ei galon a daeth y pentref yn fwrlwm o weithgarwch diwylliannol.
Yn ystod ei gyfnod yn brifathro sefydlodd Barti Pontrhydyfen a ddaeth yn enwog drwy Gymru.
Roeddynt yn cymryd rhan yn yr Eisteddfodau Cenedlaethol, yr Urdd a’r Gwyliau Cerdd Dant gan ymddangos hefyd mewn rhaglenni teledu a radio. Alwyn Samuel oedd yn trefnu llawer o’r alawon.
Roedd yn ddatgeinydd Cerdd Dant rhagorol ac yn enillydd cenedlaethol.
Daliodd ei gysylltiad â’r byd Cerdd Dant, fel beirniad yn aml, ac ef oedd Llywydd Anrhydeddus yr Ŵyl ym Mhorthcawl y llynedd.
Bu’n gynhyrchydd rhaglenni adloniant gyda’r BBC ym Mangor lle bu’n byw am flynyddoedd lawer wedi gadael Cwmafan.
Ar un cyfnod bu’n cynhyrchu rhaglenni newyddion boreol a min nos yn y chwech a’r saithdegau.
Yn y ddinas roedd yn ddiacon ac organydd yn ei gapel a bu’n arwain côr ym Mangor a fu’n cystadlu yn yr Ŵyl Cerdd Dant.
Ymunodd hefyd â’i gyfaill, y diweddar Morien Phillips, i ganu deuawdau a bu eu cyfraniadau yn boblogaidd iawn gan eu bod wedi atgyfodi rhai o ganeuon Twm a Morien, Rhosllanerchrugog o’r pumdegau.
Wedi ymddeol a cholli ei wraig symudodd yn ôl i Gwmafan.
Mynnai bwysleisio mai Cwmafan ac nid Cwmavon oedd y pentref gan mai Afan oedd enw’r afon.
Dywedai ei fod yn adnabod pawb yn y fro pan oedd yn ifanc ond erbyn hyn roedd pobl o wahanol rannau o Loegr wedi darganfod Cwmafan a Phontrhydyfen.
Yn y blynyddoedd diwethaf bu’n byw ym Mhorthcawl.
Cyn treulio cyfnod mewn ysbyty bu mewn cartref gofal. Gedy ddau fab a dwy ferch a’u teuluoedd.