Mwy o Newyddion
Leanne Wood yn galw ar i’r genedl cael cyfle i ddweud ‘Diolch’ i dîm pêl-droed Cymru
Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi galw ar i dîm pêl-droed Cymru gael taith mewn bws agored o gwmpas y wlad yn dilyn eu llwyddiannau ym Mhencampwriaethau Ewrop.
Dywedodd AC y Rhondda, boed iddynt ennill neu golli’r gêm gynderfynol, fod tîm Chris Coleman a staff yr ystafelloedd cefn wedi codi balchder y genedl a’u bod yn haeddu'r gydnabyddiaeth fwyaf.
Dywedodd ei bod yn bwysig i bobl gael y cyfle i ddangos eu cenfogaeth i’r tîm sydd wedi herio’r holl ragdybiaethau trwy “rannu cwlwm nad oes modd ei dorri, meiddio breuddwydio a chwarae pêl-droed ardderchog.”
“Mae tîm pêl-droed Cymru wedi uno’r genedl gyda’u hysbryd, eu brwdfrydedd a’u hyder,” meddai Ms Wood.
“Nid mynd i Ffrainc i wneud yn siŵr bod y nifer iawn yno a wnaethant: fe aethonmt i Ffrainc i ennill. Bu hynny’n amlwg o’r ffordd maent wedi chwarae yn ddiofn trwy gydol y twrnamaint.
“Maent wedi goresgyn proffwydoliaethau’r bwcis trwy rannu cwlwm nad oes modd ei dorri, meiddio breuddwydio a chwarae pêl-droed ardderchog . Mae hyn yn esiampl i ni oll. Maent wedi peri i ni gredu fod unrhyw beth yn bosib.
“Gadewch i ni wneud yn siŵr fod gennym oll gyfle i ddweud ‘diolch’ wrth y garfan, y rheolwyr a phawb yng Nghymdeithas Pêl-droed Cymru am eu holl waith yn gosod Cymru ar lwyfan y byd.
“Maent wedi tanio brwdfrydedd y sawl fu’n dilyn pêl-droed ers blynyddoedd, ac wedi creu dilynwyr newydd i’r gamp. Rwy’n siwr y bydd miloedd yn awyddus i ddangos eu diolchgarwch am yr hyn a wnaethant dros y genedl.”