Mwy o Newyddion

RSS Icon
05 Gorffennaf 2016

Cyflwyno gwobrau i Dan Rowbotham a Catrin Howells er cof am gewri cenedl

Mae dau fyfyriwr wedi eu henwebu i dderbyn gwobrau gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol er cof am ddau ysgolhaig chwaraeodd ran mor flaenllaw yn natblygiadau’r Coleg sef y Dr John Davies a’r Dr Meredydd Evans.

Catrin Howells o Bonterwyd a Dan Rowbotham o Dregaron fydd yn eu derbyn, a hynny mewn digwyddiadau arbennig fydd yn cael eu cynnal ar stondin y Coleg Cymraeg ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Catrin Howells o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd fydd y cyntaf i dderbyn Gwobr John Davies a hynny am y traethawd estynedig israddedig gorau a gyflwynwyd drwy gyfrwng y Gymraeg ym maes Hanes Cymru.

Traethawd Catrin ar y teitl “A yw creu Awdurdodaeth Gyfreithiol ar wahân i Gymru bellach yn anorfod?” ddaeth i’r brig yn dilyn ystyriaeth gan banel dyfarnu oedd yn cynnwys tri hanesydd o ystod o gefndiroedd.

Yn ôl Catrin: ‘‘Bydd yn fraint anhygoel derbyn y wobr hon, ac mae ei hennill am y tro cyntaf yn anrhydedd fawr.

"Roedd y Dr John Davies yn flaengar iawn yn hanes a diwylliant Cymru ac rwy’n hapus fod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cydnabod ei gyfraniad.

"Ystyriaf hyn yn goron ar fy nghyfnod ym Mhrifysgol Caerdydd ac edrychaf ymlaen at gael derbyn y wobr yn ogystal â chael cyfle i ddiolch i deulu’r Dr John Davies yn y brifwyl.’’

Llywydd Grŵp Undeb Myfyrwyr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Llywydd Urdd Gobaith Cymru, Dan Rowbotham fydd yn derbyn Gwobr Merêd.

Mae’r wobr flynyddol hon yn cydnabod cyfraniad myfyriwr i’r bywyd a’r diwylliant Cymraeg, o fewn prifysgol ac yn ehangach. Prif ffocws y wobr yw agweddau allgyrsiol, sydd yn allweddol i fywyd myfyrwyr yn ein prifysgolion.

Dywed Dan fod ei ddyled yn fawr i’r Urdd am ei alluogi i gyfrannu at weithgarwch y mudiad y tu hwnt i’w astudiaethau ym maes Perfformio: ‘‘O dan nawdd yr Urdd, rwyf wedi cael cyfleoedd i gyd-redeg Aelwydydd y Drindod a Myrddin yn ystod fy nghyfnod yn y brifysgol, ynghyd â chyfleoedd i leisio barn a chadeirio byrddau megis Bwrdd Syr IfanC.’’

Ychwanegodd Dan: ‘‘Mae cael y wobr hon a derbyn cydnabyddiaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ond yn fwy pwysig, derbyn gwobr yn enw Merêd, yn rhywbeth wnâi drysori am byth, ac rwyf mor ddiolchgar i’r rhai wnaeth fy enwebu.’’

Yn ôl Hefin Jones, Deon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: ‘‘Hoffwn longyfarch Catrin a Dan yn wresog ar gael eu henwebu a’u dewis i dderbyn y gwobrau hyn er cof am ddau o Gymry mwyaf dylanwadol yr hanner canrif ddiwethaf.

"Dau wron a oedd mor gefnogol o waith y Coleg.

Hoffwn ddiolch i deuluoedd y Dr John Davies a’r Dr Meredydd Evans am eu cefnogaeth i’r gwobrau, ac wrth gwrs, i’r ddau banel dyfarnu am eu gwaith.

"Edrychwn ymlaen at eu llongyfarch yn ffurfiol ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol fis nesaf.’’

Bydd Gwobr John Davies yn cael ei chyflwyno i Catrin Howells ar stondin y Coleg ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol brynhawn Llun 1 Awst am 2 o’r gloch.

Bydd cyfle i longyfarch Dan Rowbotham ar ei wobr yntau mewn digwyddiad ar ein stondin brynhawn Mawrth 2 Awst am 2 o’r gloch.

Rhannu |