Mwy o Newyddion

RSS Icon
05 Gorffennaf 2016

Cais am gyfarfod brys gyda phenaethiaid HSBC wrth i'r banc wrthod ail ystyried penderfyniad i gau canghennau ym Meirionnydd

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd Liz Saville Roberts wedi gofyn am gyfarfod brys â phenaethiaiad HSBC ar ôl i’r banc wrthod ac ail-ystyried penderfyniad i gau canghennau Bermo, Tywyn a Blaenau Ffestiniog, er gwaethaf gwrthwynebiad ffyrnig gan bobl lleol. 

Mae deiseb bapur ac ar-lein eisioes wedi denu dros 600 o enwau yn galw ar HSBC i wyrdroi eu penderfyniad ac ymgynghori â’r cymunedau yr effeithir arnynt gan y penderfyniad. Ond mewn ymateb i lythyr gan Liz Saville Roberts AS, dywedodd HSBC fod eu penderfyniad yn un terfynol. 

Mae Liz Saville Roberts AS wedi cyhuddo’r banc o wneud tro gwael a’u cwsmeriaid gan ddisgrifio y modd y mae’r banc wedi ymdrin â’r sefyllfa fel ‘hunan wasanaethu’.

Dywedodd Liz Saville Roberts AS: “Rwy’n hynod siomedig fod HSBC yn gwrthod ail ystyried eu penderfyniad i gau tair cangen yn fy etholaeth, yn enwedig ym Mlaenau Ffestiniog, sydd nawr yn wynebu colli eu hunig fanc. Bydd cwsmeriaid yn Nhywyn a Bermo hefyd yn wynebu anhawsterau yn dilyn penderfyniad HSBC.

“Mae nifer helaeth o fy etholwyr ynghyd a busnesau lleol wedi cysylltu â mi, yn flin â’r diffyg ymgynghori ar ran HSBC a’u bod yn blaenoriaethu bancio ar-lein yn hytrach nag anghenion cwsmeriaid mewn ardaloedd gwledig, sy’n dioddef problemau enbyd o ddiffyg cysylltiad rhyngrwyd dibynadwy.

“Rwy’n cymryd y cyfle yma i ddatgan fod y modd y mae HSBC wedi dod i gasgliad am ddyfodol y canghennau yma yn hynod afloyw ac yn enghraifft o hunan-wasanaethu ar ei waethaf.

“Dylai’r banc fod wedi rhoi gwybod i’r cymunedau fod cau canghennau ar y gweill yn hytrach na cael eu cyflwyno â penderfyniad masnachol ar sail yr hyn sy’n ymddangos fel elwa buddiannau pell.

“Rwyf wedi gofyn am gyfarfod brys ag HSBC ynghyd a Chynghorwyr lleol er mwyn trafod ein pryderon ac rwy’n gobeithio y byddant yn ymateb i siomedigaeth pobl leol a chwsmeriaid sy’n teimlo fod y banc wedi eu twyllo gan y penderfyniad cul yma.”

Rhannu |