Mwy o Newyddion
Anrhydeddu’r Uwch-gapten Lionel Rees, yr unig beilot yng Nghymru i dderbyn anrhydedd filwrol uchaf y wlad yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf
MAE awyrennau jet LlAB wedi talu teyrnged i awyrennwr lleol a ddyfarnwyd iddo’r Groes Fictoria ar ddiwrnod cyntaf Brwydr y Somme, yn union 100 mlynedd yn ôl.
Casglodd pwysigion, swyddogion milwrol ac aelodau o’r cyhoedd yng Nghaernarfon i anrhydeddu’r Uwch-gapten Lionel Rees, yr unig beilot yng Nghymru i dderbyn anrhydedd filwrol uchaf y wlad yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Wedi dadorchuddio’r gofeb ddydd Gwener gwnaeth grŵp o awyrennau Hawk o LlAB Fali hedfan dros gastell Caernarfon yn saliwt i’r Uwch-gapten.
Derbyniodd Rees yr anrhydedd ar ôl iddo ymosod ar ei ben ei hun a thorri i fyny sgwadron o awyrennau Almaeneg yn ystod diwrnod cyntaf Brwydr y Somme ym 1916, er iddo gael ei anafu ac yn isel ar ffrwydron rhyfel yn ystod yr ymladdfa.
Dywedodd y Comodor Awyr Dai Williams, Swyddog Aer dros Gymru, yn ystod y seremoni fod yr Uwch-gapten Rees, a aned yng Nghaernarfon yn 1884, wedi dangosodd dewrder.
“Daethom yma heddiw i anrhydeddu’r dewrder a ddangoswyd gan Lionel Rees can mlynedd yn ôl,” meddai.
“Erbyn 1916 gwnaeth pŵer awyr chwarae rôl ganolog yn y ffordd rydym yn cynnal gweithrediadau.
“Dangosodd yr Uwch-gapten Rees ei bwysigrwydd cynyddol, ac mae’n mor ysbrydoledig i’r LlAB heddiw ag yr oedd yn 1916.”
Cred y Cyng Eric Jones, cadeirydd Cyngor Gwynedd, y dylai Caernarfon fod yn haeddiannol falch o’i mab brodorol.
“Mae’n ddiwrnod arbennig i Gaernarfon gyfan ac, yn wir, Gwynedd i fod yn onest. Roedd Lionel Rees yn ŵr bonheddig ac yn arwr i Gymru.”
Ymunodd Rees â’r fyddin yn 1903 ac wedi dysgu i hedfan ar ei draul ei hun, cyn mynd ymlaen i fod yn swyddog yn y Royal Flying Corps a gweini ar Ffrynt y Gorllewin.
Parhaodd Rees i hedfan pan ddaeth y Royal Flying Corps yn Llu Awyr Brenhinol yn 1918, a ddaeth allan o ymddeoliad i hedfan yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Roedd Rees hefyd yn uchel ei barch am ei lwyddiannau y tu allan i ymladd, arloesodd mewn archeoleg o’r awyr yn ystod ei anfon i’r Dwyrain Canol yn 1926, yn ogystal â hwylio ar ben ei hun o Gymru i’r Bahamas yn 1934, lle yn ddiweddarach gwnaeth ymddeol i ddechrau teulu cyn bu farw yn 1955.
Ei dad, James Rees, oedd sylfaenydd y papur newydd cyntaf yn yr Iaith Gymraeg, sef Yr Herald Cymraeg.