Mwy o Newyddion

RSS Icon
04 Gorffennaf 2016

Merched y Wawr yn creu cronfa o atgofion i ddathlu'r aur

Pam oedd merched Y Parc yn arwresau arloesol ym 1967?  Dyma gwestiwn fydd yn cael ei ateb a'r hanes yn cael ei gofnodi diolch i nawdd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Bydd Merched y Wawr yn Dathlu'r Aur yn 2017 a mae gweithgareddau amrywiol yn cael eu cynllunio. Ond y newyddion gwych yr wythnos hon ydyw fod y mudiad wedi derbyn cyllid trwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri tuag at "brosiect treftadaeth elusen arbennig Merched y Wawr a'i chyfraniad i ddiwylliant Cymru".

Bydd y mudiad yn gweithio yn agos gyda nifer o bartneriaid ac un yn arbennig sef Casgliad y Werin.

Bydd dau/dwy swyddog treftadaeth yn cael eu cyflogi i hwyluso y gwaith o weithio gyda'r aelodau i greu cronfa o atgofion yn ddelweddau, dogfennau a chofnod o greiriau.

Bydd recordio atgofion llafar yr aelodau hefyd yn rhan o'r prosiect.  Bydd hefyd digwyddiad arbennig yn Y Parc ger y Bala lle gychwynnodd y Mudiad.

Wyddoch chi fod rhai canghennau wedi cadw pob un rhaglen o weithgarwch blynyddol ers y cychwyn a bod eraill wedi creu llyfr lloffion i gofnodi hanes y flwyddyn.

Mae yna gannoedd os nad miloedd o luniau ac atgofion sydd angen eu cofnodi.

Bydd cystadleuaeth creu llyfr lloffion a bydd rhodd arbennig i bob un aelod o’r mudiad. Mae cylchgrawn Y Wawr hefyd yn gofnod hanesyddol a fydd yn rhan o arddangosfa deithiol yr ydym yn cynllunio.

Dywed Tegwen Morris Cyfarwyddwr Merched y Wawr: "Rydym yn ddiolchgar iawn i Gronfa Dreftadaeth y Loteri - mae yna brosiect cyffrous ar y gorwel a bydd modd i pob un aelod gyfrannu at yr hanes a bod yn rhan o'r dathliadau arbennig.

"Hefyd mae cefnogaeth partneriaid yn allweddol o bwysig a diolchwn am y cymorth parod gan bob un ohonynt."

Meddai Richard Bellamy, Pennaeth CDL yng Nghymru: “Mae Merched y Wawr wedi bod wrth galon bywyd cymunedol Cymru ers ei dechreuad bron 50 mlynedd yn ôl.

"Heb gefnogaeth gan y Loteri Genedlaethol byddai'n anodd iawn i brosiectau fel yr un hwn i ddigwydd, sy'n golygu na fyddai miloedd o leisiau gwirfoddolwyr Cymraeg yn cael eu clywed.

"Bydd y prosiect hwn yn dod at ei gilydd cofnodion o ar draws Cymru yn dogfennu’r llwyth o weithgareddau amrywiol bod Merched y Wawr wedi cyflawni yn ystod cyfnod o newid cymdeithasol a diwylliannol mawr yng Nghymru.

"Drwy wneud hyn bydd yn dangos y cyfraniadau amhrisiadwy a wnaed gan wirfoddolwyr Merched y Wawr yn eu cymunedau lleol dros yr hanner canrif diwethaf.”

Mae hanner cant o flynyddoedd wedi gwibio heibio a Merched y Wawr wedi chwarae rhan allweddol yn diogelu dyfodol i'r Iaith Gymraeg ac yn galon y gymuned mewn pentrefi a threfi ar draws Cymru.

Mae'r aelodau mor weithgar ag erioed yn unigolion, canghennau, clybiau gwawr a rhanbarthau.

Mae hanes y mudiad yn adlewyrchu hanes Cymunedau Cymru a bydd modd cofnodi y diwylliant yma dros y flwyddyn nesaf fel bod haneswyr y dyfodol yn cael darlun clir i gyfraniad Merched y Wawr. 

Os hoffech mwy o fanylion neu fod gennych ddiddordeb i weithio fel un o'r swyddogion prosiect yna cysylltwch gyda'r swyddfa yn Aberystwyth swyddfa@merchedywawr.cymru neu 01970 611 661.

Llun: Pwyllgor Rheoli Prosiect Treftadaeth Merched y Wawr

Rhannu |