Mwy o Newyddion

RSS Icon
04 Gorffennaf 2016

Gadael yr Undeb Ewropeaidd: her a chyfle i’r eglwysi

Mae'r Annibynwyr Cymraeg yn galw ar eglwysi ar draws Cymru i gynnal ymgyrch ar fyrder i warchod hawliau dynol, heddwch cymdeithasol a gwerthoedd Cristnogol yn sgil gadael yr Undeb  Ewropeaidd.

Yn ei gyfarfod blynyddol yn Llanuwchllyn ger y Bala clywodd yr Undeb, sy’n cynrychioli Cristnogion mewn dros 400 o gapeli, bod Cymru’n wynebu’r cyfnod mwyaf heriol ers yr Ail Ryfel Byd.

Cytunodd y cynrychiolwyr y dylid bwrw ati ar unwaith i sefydlu Comisiwn cydenwadol a fyddai’n ymgeisio i ddylanwadu ar ddeddfwriaeth newydd ar lefel Gymreig a Phrydeinig. 

Y Cynnig (fel ydoedd, yn Gymraeg)

Mae Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn gwerthfawrogi rôl unigryw yr Undeb Ewropeaidd. Fe wnaeth gyfraniad sylweddol tuag at gadw’r heddwch rhwng gwledydd mawr Ewrop, o bosib am y cyfnod hiraf mewn hanes. Bu’n gyfrwng i fagu cenhedlaeth o bobl iau sy’n medru symud yn hawdd rhwng y gwledydd i fyw, i weithio ac i gael addysg. Yn ogystal â bod yn rym er daioni yn economaidd ac yn gymdeithasol, esgorodd ar gyfreithiau rhyngwladol i ddiogelu pobl mewn ystod eang o feysydd – o amodau gwaith i hawliau lleiafrifoedd.

O ganlyniad i ddymuniad mwyafrif pobl y Deyrnas Unedig i adael yr UE, rydym yn wynebu’r cyfnod o ansicrwydd mwyaf ers yr Ail Ryfel Byd. Bydd gadael yr Undeb yn agor bwlch mawr yn strwythur cyfansoddiadol a chyfreithiol y Deyrnas Unedig. Credwn bod hi’n allweddol bwysig bod beth bynnag fydd yn llanw’r bwlch hwnnw’n gwarchod y traddodiadau, yr hawliau a’r dyheadau gwâr yr ydym yn eu mwynhau nawr.

Ystyriwn ei bod hi’n ddyletswydd ar yr eglwysi i wneud popeth o fewn eu gallu i ddiogelu'r pethau hynny sy’n gydnaws â’n ffydd a’n gwerthoedd ni fel Cristnogion wrth i’r sefyllfa newid. Er enghraifft, dylid :

  • gwarchod statws a hawliau pobl fregus ac anabl, ein henoed a’n plant
  • diogelu fod gan ieuenctid gyfleoedd addysg a chyflogaeth priodol yn y cyfnod economaidd mwy ansicr sydd o’n blaen
  • tawelu meddwl lleiafrifoedd ethnig sy’n teimlo’n ansicr neu’n ofnus am y dyfodol
  • estyn croeso i’r dieithryn a’r anghenus
  • gwarchod hawliau’r unigolyn a’r gweithlu
  • gwarchod hawliau ieithoedd lleiafrifol fel y Gymraeg
  • parhau â’r gwaith o warchod yr amgylchedd ac ymdrin â newid hinsawdd, yn ogystal â gwarchod cynhyrchwyr bwyd lleol
  • bod yn gymdogion da i wledydd eraill  

Mewn ymdrech i sicrhau hyn, mae Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn cytuno

i. i ffurfio Comisiwn yr Eglwysi ar Batrymau Gwleidyddol mewn partneriaeth â Cytun i ystyried y materion hyn ac i gyfranogi yn y broses o ddatblygu polisïau a strwythurau priodol yn dilyn gweithredu Erthygl 50 gan Llywodraeth y DU;
ii. yn benodol, y dylai’r Comisiwn hwn ystyried, yng ngoleuni’r gwerthoedd uchod, y polisïau ddylai gael blaenoriaeth yn y trefniadau newydd, rôl Senedd Llywodraeth Cymru yn y trefniadau gwleidyddol newydd a blaenoriaethau Llywodraeth y Deyrnas Unedig wrth i’r trasglwyddo o Ewrop i’r DU ddigwydd.
iii. i baratoi rhestr gydenwadol o bobl briodol fyddai’n gynrychioliadol o’r eglwysi ac yn medru cyfranogi o’u profiad o’r bywyd cyhoeddus yng Nghymru i’r meddwl Cristnogol ar y materion hyn;
iiii. i fod yn barod i gynnull y Comisiwn gan ddefnyddio adnoddau’r Undeb mewn partneriaeth â Cytûn;
v. i ymgynghori’n eang â’r eglwysi a’r enwadau yng Nghymru, drwy Cytûn, er mwyn sicrhau sail gadarn i’r Comisiwn cydenwadol weithredu ar unwaith ar y materion hollbwysig hyn.
 

Rhannu |