Mwy o Newyddion

RSS Icon
04 Gorffennaf 2016

Arweinydd Plaid Cymru yn mapio ymateb Plaid Cymru wedi’r refferendwm

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi dweud na fydd yn goddef gweld Cymru wedi ei gwthio i’r cyrion fel gwlad yn dilyn y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mewn araith allweddol yng Nghaerdydd yn dilyn Brexit, bydd AC y Rhondda yn dweud y gall y wlad fod wedi pleidleisio yn erbyn canoli, ond nad oedd wedi pleidleisio i ganoli mwy o bwer yn San Steffan.

Bydd y digwyddiad ar gampws Coleg Caerdydd a’r Fro ar Heol Dumballs yn mapio allan sut y bydd y nlaid yn rhoi arweinyddiaeth a chraffu i bobl yng Nghymru wedi’r refferendwm.

Mae disgwyl iddi ddweud: “Fydd Plaid Cymru ddim yn derbyn Cymru lle peryglir ein hamrywiaeth ethnig, ieithyddol a diwylliannol. Ni wnawn dderbyn chwaith ymylu ac anwybyddu ein cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

“Os oedd y bleidlais yn bleidlais yn erbyn canoli, yna nid pleidlais ydoedd i ganoli mwy o rym yn San Steffan. Os oedd yn bleidlais gwrth-lymder, yna nid oedd yn bleidlais dros reolaeth Dorïaidd ddilyffethair dros Gymru.

“Os mai pleidlais i gymryd rheolaeth yn ôl ydoedd, yna nid oedd yn bleidlais i wneud mwy o gyfreithiau Cymreig a chymryd penderfyniadau Cymreig y tu allan i’n cenedl.”

Dywedodd Ms Wood y bydd Plaid Cymru hefyd yn gweithio i ddatblygu gweledigaeth i gymdeithas Gymreig ddod ynghyd a symud ymlaen fel cenedl unedig.

“O gofio fod gennym o hyd ddwy flynedd mwy fel aelod o’r UE, fe wnaf yn siŵr hefyd y byddwn yn ffurfio ein cysylltiadau gyda gweddill Ewrop fel y gellir eu cynnal mor agos ag sydd modd yn dilyn Brexit,” meddai Ms Wood.

Rhannu |