Mwy o Newyddion

RSS Icon
01 Gorffennaf 2016

Castell Caerdydd yn agor ei drysau i Tafwyl 2016

Mae disgwyl i dros 35,000 o bobl ymweld â gŵyl gymunedol fwyaf Cymru yng Nghastell Caerdydd y penwythnos yma (Sadwrn a Sul, Gorffennaf 2 - 3) wrth iddi ddathlu ei phen-blwydd yn ddeg mlwydd oed.

DJ Radio 1 a Radio Cymru, Huw Stephens, fydd yn agor yr ŵyl yn swyddogol unwaith eto eleni yn ei rôl fel un o lysgenhadon Tafwyl.

Gyda dros ddeuddydd o ddathlu'r iaith Gymraeg a'i diwylliant yn y brifddinas mae’r ŵyl rhad ac am ddim, sy’n cael ei threfnu gan Menter Caerdydd, yn croesawu pobl o bob oed gyda cherddoriaeth, gweithgareddau a digwyddiadau llenyddiaeth a theatr, bwyd a diod a chwaraeon.

Eleni bydd dros 42 o fandiau byw yn perfformio dros ddau brif lwyfan a phebyll amrywiol, 272 o ddigwyddiadau unigol yn y castell a 105 o wirfoddolwyr yn rhoi o'u hamser i gefnogi'r dathliadau.

Ymhlith yr artistiaid sy’n perfformio yng ngerddi’r castell mae Maffia Mr Huws, Band Pres Llareggub, Swnami a Candelas ddydd Sadwrn ac Y Niwl, Cowbois Rhos Botwnnog, Palenco a Bryn Fôn ar ddydd Sul.

Mae gan yr ŵyl lysgennad newydd eleni, sy'n ymuno gyda Huw Stephens, Matthew Rhys, Alex Jones a Rhys Patchell. Cyn-ddrymiwr y Flaming Lips yw Kliph Scurlock sy'n wreiddiol o Kansas, UDA. Symudodd i Gymru er mwyn dysgu Cymraeg a chymryd rhan yn y sin gerddoriaeth Gymraeg.

Dywed: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr i brofi fy Tafwyl cyntaf.

"Mae’n rhywbeth rwy' wedi clywed pobl yn siarad yn llawn cyffro amdano a dyma'r cyfle cyntaf i fi gael ei brofi.

"Rwy wedi symud yn ddiweddar i Gaerdydd o Kansas, yn bennaf oherwydd fy nghariad at gerddoriaeth unigryw a rhyfeddol sy’n cael ei greu yng Nghymru.”

Bydd Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd, y Cyng. Phil Bale hefyd yn siarad yn yr Agoriad Swyddogol.

Wrth edrych ymlaen at Tafwyl, dywed Cyng. Bale: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr i fynychu’r dathliadau’r penwythnos yma.

"Mae Tafwyl yn ŵyl agored a chynhwysol sy’n croesawu siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg fel ei gilydd, yn rhoi llwyfan i’r iaith a’i diwylliant i gynulleidfaoedd newydd ac yn dangos fod y Gymraeg yn iaith fyw yma yng Nghaerdydd."

Torrodd Tafwyl 2015 pob record gyda dros 34,000 o ymwelwyr yn mwynhau’r Ffair dros ddeuddydd am y tro cyntaf ac mae Menter Caerdydd yn gobeithio y bydd yr ymwelwyr yn heidio yn eu miloedd eto eleni

 Dywed Llinos Williams, trefnydd yr ŵyl ar ran Menter Caerdydd: “Mae Tafwyl wedi mynd o nerth i nerth ac yn datblygu pob blwyddyn wrth geisio denu pobl o Gaerdydd a thu hwnt i ddathlu diwylliant Cymraeg ein prifddinas.

"Roedd cael yr ŵyl dros ddeuddydd wedi cynyddu niferoedd yr ymwelwyr yn sylweddol yn 2015 ac rydym yn gobeithio daw mwy o bobl i fwynhau gyda ni eto eleni.”

Rhannu |