Mwy o Newyddion
Gwaith cloddio’n datgelu bod rhai o gyfoeswyr Dewi Sant wedi eu claddu mewn capel
Mae archeolegwyr wedi darganfod y gallai rhai o'r bobl a gladdwyd yng Nghapel Sant Padrig ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro wedi bod yn gyfoeswyr i Dewi Sant.
Datgelodd gwaith cloddio dros gyfnod o dair wythnos ar y safle ym Mhorth Mawr nad y man addoli Canoloesol oedd y defnydd cynharaf o'r safle, ac y gallai olion a ddarganfuwyd dan y ddaear olygu fod y fynwent yn dyddio’n ôl i gynhanes.
Mae rhai o'r claddedigaethau Cristnogol a ddadorchuddiwyd yn ystod trydedd blwyddyn y gwaith cloddio, sef blwyddyn olaf y gwaith, wedi eu dyddio i ddechrau'r 6ed ganrif Oed Crist, pan oedd Dewi Sant - nawddsant Cymru erbyn hyn - yn esgob.
Dywedodd Phil Bennett, Rheolwr Treftadaeth Ddiwylliannol Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, a oedd yn cefnogi'r gwaith cloddio: “Byddai rhai o'r bobl a gladdwyd yng Nghapel Sant Padrig wedi bod yn gyfoeswyr i Dewi Sant heb amheuaeth - efallai y bydden nhw'n gyfarwydd ag ef, hyd yn oed.
“Ond nid oedden nhw’n gydwladwyr o reidrwydd. Datgelodd ymchwil gan Brifysgol Sheffield ar sgerbydau o safleoedd tebyg yn Sir Benfro nad oedd rhai o'r bobl a gladdwyd yn bobl leol, ond eu bod nhw'n hanu o Iwerddon a chyfandir Ewrop.
"Mae canlyniadau cychwynnol o Gapel Sant Padrig yn awgrymu patrwm tebyg, gan wneud Porth Mawr yn safle eithaf cosmopolitaidd.”
Cynhaliwyd y gwaith cloddio er mwyn osgoi colli gwybodaeth archaeolegol am byth i’r môr, ar ôl i stormydd gaeaf 2014 amlygu beddau i'r elfennau. Ers y gwaith cloddio cyntaf, mae olion bron i 100 o sgerbydau wedi cael eu cloddio.
Daeth cannoedd o bobl ar deithiau tywys yn ystod y gwaith cloddio dan arweiniad Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, a oedd yn cynnwys tîm o wirfoddolwyr ymroddedig. Cafodd ei gyllido gan Cadw (Llywodraeth Cymru), Ymddiriedolaeth Elusennol Ninefe a Phrifysgol Sheffield.
Dywedodd Ken Murphy o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed: "Beddau blant oedd llawer o'r rhai a ddatgelwyd, ac roedden nhw wedi cael eu haddurno'n deimladwy gyda chregyn môr a cherrig mân cwarts sgleiniog. Crafwyd croesau ar ddwy o gerrig beddau’r plant. Gallwch ddychmygu'r tynerwch a deimlai’r rhai a fu’n ymwneud â'r claddu.
"Cafodd dau o'r sgerbydau eu claddu wyneb i lawr - oedden nhw droseddwyr? Os felly, fe gawson nhw gladdedigaethau Cristnogol ar dir cysegredig er gwaethaf hynny.
"Mae'r gwaith cloddio hwn wedi rhoi gwybodaeth bwysig iawn i ni am fywydau, credoau ac arferion pobl a oedd yn byw yng Nghymru dros 1,000 o flynyddoedd yn ôl."
Yn ôl y sôn, o’r capel hwn yr hwyliodd Sant Padrig am Iwerddon yn ystod y bumed ganrif OC. Roedd y capel yn adfail dros 400 mlynedd yn ôl, ond nid yw’r lleoliad wedi mynd yn angof.
Mae'r safle wedi cael ei lenwi drachefn a glaswellt wedi ei ailosod ar ei ben, ond megis dechrau mae'r gwaith o ddadansoddi canlyniadau'r gwaith cloddio, a bydd yn cymryd sawl blwyddyn i'w gwblhau.
Lluniau:
1. Daethpwyd o hyd I olion dynol wrth gloddio yng Nghapel Sant Padrig ar draeth bendigedig Porth Mawr.
2. Cafodd y corff ei gladdu wyneb i lawr, efallai ei fod yn ddrwgweithredwr.