Mwy o Newyddion

RSS Icon
01 Gorffennaf 2016

Campwaith yn diflannu o Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Mewn ymgyrch gudd dros nos neithiwr, tynnwyd campweithiau amhrisiadwy o gasgliadau orielau ac amgueddfeydd ar draws y DU – gan gynnwys Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. I gymhlethu pethau, mae gweithiau ffug wedi cymryd lle y saith gwaith gan artistiaid Prydeinig enwog.

Cydlynwyd y cyrch gan Sky Arts, gyda chaniatâd yr orielau, ar gyfer cystadleuaeth gelf genedlaethol drwy’r mis i lansio cyfres deledu Fake! The Great Masterpiece Challenge. Dim ond curaduron yr amgueddfeydd, tîm cynhyrchu IWC Media a’r cyflwynwyr, Giles Coren a’r hanesydd Rose Balston, sy’n gwybod pa rai yw’r darluniau ffug.

Drwy gydol Gorffennaf gall ymwelwyr o bob oed ddefnyddio eu sgiliau ditectif i ganfod y saith copi sy’n cuddio ar waliau chwe oriel yng Nghaerdydd, Caeredin, Lerpwl, Llundain a Manceinion. Bydd cyfle i ymchwilio ar-lein hefyd ar wefan y gystadleuaeth: skyartsfake.com/

Os oes gennych chi lygad barcud ac yn medru canfod y saith gwaith ffug, bydd cyfle i chi gymryd rhan yn finale’r gyfres am y cyfle i ennill ail-gread wedi’i gomisiynu’n arbennig.

“Does dim angen bod yn hanesydd celf i gymryd rhan,” meddai Phil Edgar-Jones, Cyfarwyddwr Sky Arts, “dim ond meddwl chwilfrydig a llygad dda. Roedden ni am adrodd hanes celf Prydain mewn ffordd hwyliog fyddai’n gwneud i bawb edrych yn fanylach ar weithiau prif artistiaid Prydain.” 

Bydd pob rhaglen yn y gyfres yn taflu goleuni ar gyfnod penodol yn hanes celf Prydain, gan gyfweld â churaduron arbenigol o bob oriel ac artistiaid cyfoes sydd wedi cael eu comisiynu’n ddirgel i ail-greu’r campweithiau.

Yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gwnaed copi o dirlun gan artist Prydeinig megis J.M.W Turner neu Richard Wilson. Os ydych chi am gael golwg fanylach bydd teithiau tywys am ddim o ‘Uchafbwyntiau Celf’ bob dydd Mercher a dydd Sadwrn am 12.30pm. Gall ymwelwyr gymharu’r technegau tirlunio drwy’r casgliad fydd yn amlygu gweithiau gan artistiaid megis Van Gogh, Cézanne, Morisot, L.S Lowry, Richard Wilson a JMW Turner.

Dywedodd Beth McIntyre, Uwch Guradur Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd: “Mae hwn yn gyfle unigryw i fod yn rhan o gystadleuaeth a rhaglen Sky Arts Fake! The great Masterpiece Challenge.

"Rydyn ni am herio’n ymwelwyr i edrych yn fanylach – i astudio’r manylion lleiaf yn y paentiadau, o’r brwswaith i’r gwead a’r lliw.

"Mae’n gystadleuaeth ddiddorol i fod yn rhan ohoni dros yr haf ac rydyn ni’n gobeithio y bydd ymwelwyr hen a newydd o Gymru yn ateb yr her. Dewch i gael golwg well ar ein casgliad.”

Yr orielau a’r amgueddfeydd eraill yw:

  • Oriel Gelf y Guildhall, Llundain (Casgliad: ‘Paentio Naratif Oes Fictoria’)
  • Oriel Gelf y Fonesig Lever, Port Sunlight, Cilgwri (Casgliad: ‘Oes Aur Portreadu Lloegr’)
  • Oriel Gelf Manceinion (Casgliadau: ‘Y Cyn-Raphaeliaid’ / ‘Lowry a Valette’)
  • Oriel Bortreadau Genedlaethol yr Alban, Caeredin (Casgliad: ‘Celf Llysoedd y Stiwartiaid’)
  • Walker Art Gallery, Liverpool (Collection: ‘Celf Anifeiliaid a Chwaraeon’) 

Dyma fydd y gyfres gyntaf ar Sky i gael ei chyflwyno gan Giles Coren, beirniad bwytai a cholofnydd gyda The Times. Mae wedi ymddangos yn y gorffennol gyda Sue Perkins ar gyfres The Supersizers Go… ar y BBC a gyda Olivia Judson ar Animal Farm ar Channel 4.

Dyma fydd ymddangosiad teledu cyntaf Rose Balston, hanesydd celf ac awdur a astudiodd yng Nghaeredin. Mae’n darlithio yn y V&A ac wedi sefydlu ei chwmni ei hun, Art History UK, yn trefnu teithiau celf a phensaernïaeth arbennig ym Mhrydain a thu hwnt.

Bydd Fake! The Great Masterpiece Challenge yn cael ei recordio drwy gydol Gorffennaf ac Awst ac yn cael ei dangos ar Sky Arts yn y flwyddyn newydd, pan fydd y saith darlun ffug a’r artistiaid a gomisiynwyd yn cael eu datgelu. Uchafbwynt y gyfres fydd y rhaglen olaf yn amgueddfa gyhoeddus hynaf y byd, Amgueddfa Ashmolean yn Rhydychen. Ar ddiwedd y gystadleuaeth ym mis Awst, bydd y saith paentiad gwreiddiol yn cael eu dychwelyd i’r orielau.

I gymryd rhan ewch i: skyartsfake.com

Llun: Giles Coren a Rose Balston yn Oriel Gelf y Guildhall, Llundain

Rhannu |