Mwy o Newyddion
Ar gamera - heddlu cyntaf yng Nghymru i roi offer fideo a wisgir ar y corff i bob swyddog heddlu
Heddlu Gogledd Cymru fydd yr heddlu cyntaf yng Nghymru i roi offer fideo a wisgir ar y corff i bob swyddog rheng flaen pan fyddant ar ddyletswydd.
Cafodd y newyddion hyn ei gyhoeddi gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd newydd Arfon Jones yn ei gyfarfod cyntaf o Banel yr Heddlu a Throsedd.
Cafodd offer fideo a wisgir ar y corff, sy’n recordio tystiolaeth o droseddau wrth iddynt ddigwydd, ei gyflwyno yng Ngogledd Cymru y llynedd pan gafodd 120 o gamerâu eu dosbarthu ar draws yr ardal.
Rŵan mae Mr Jones yn cyflawni’r addewid a wnaeth yn ei ymgyrch etholiadol i sicrhau y gall pob swyddog heddlu a swyddog cefnogi cymuned yr heddlu ddefnyddio technoleg atal trosodd i daclo troseddwyr pan fyddant ar ddyletswydd.
Mae’n rhoi bron i £163,000 i brynu 301 o ddyfeisiadau ychwanegol gan wneud cyfanswm o 421 ar draws ardal yr Heddlu.
Hefyd yn hwyrach eleni bydd rhagor o ddyfeisiadau yn cael eu prynu ar gyfer swyddogion arbenigol fel aelodau o’r tîm drylliau tanio.
Un maes lle mae’r camerâu hyn wedi bod yn hynod o ddefnyddiol ydi achosion o drais domestig lle gall tystiolaeth o unrhyw anafiadau a difrod gael ei recordio yn ogystal ag ymddygiad ac ymarweddiad y troseddwr a’r dioddefwr.
Meddai Mr Jones: "Mae offer fideo a wisgir ar y corff yn gwella’r broses o gasglu tystiolaeth ac mae’n sicrhau bod mwy o droseddwyr yn cael eu heuogfarnu, yn enwedig mewn achosion o drais domestig.
"Mae hefyd yn helpu i ddatrys cwynion yn erbyn yr Heddlu oherwydd mae’r dystiolaeth a gofnodir ar gamera yn ddiamheuol.
“Yn genedlaethol, yn ôl Y Coleg Plismona, mae’r siawns y bydd y troseddwr yn cael ei euogfarnu mewn achos o drais domestig wedi cynyddu o 72% i 81% pan ddangosir tystiolaeth fideo i’r rheithgor.
"Mae offer fideo a wisgir ar y corff o fantais i bawb heblaw’r troseddwyr. Nid oes unrhyw beth i boeni amdano os ydych yn cael eich ffilmio ac os nad oes dim byd troseddol wedi’i gyflawni yna bydd y dystiolaeth yn cael ei dileu oddi wrth y system mewn 30 diwrnod.
“Mae’n gwneud Gogledd Cymru yn lle diogelach oherwydd rydym yn euogfarnu mwy o droseddwyr yn gynnar ac rydym yn amddiffyn unigolion diamddiffyn rhag trais domestig a mathau eraill o drais
“Mae hefyd yn golygu nad oes rhaid i ddioddefwyr diamddiffyn fynd i’r llys i roi tystiolaeth oherwydd mae’r dystiolaeth wedi cael ei chofnodi ar y camera.”
Meddai Prif Uwcharolygydd Sacha Hatchett, pennaeth Gwasanaethau Cefnogi Gweithredol Heddlu Gogledd Cymru: “Mae’r Heddlu yn ddiolchgar i Mr Jones am gydnabod gwerth offer fideo a wisgir ar y corff ac am ddod o hyd i’r arian ychwanegol i ariannu 301 o ddyfeisiadau ychwanegol.
“Bydd yna wastad gamera ar gael i swyddog heddlu gweithredol neu SCCH pan fyddant ar ddyletswydd.
“Yng Ngogledd Cymru, rydym wedi cael esiamplau yn ddiweddar lle’r ydym wedi cael pleon euog cynnar yn y llys ac roedd yr erlyniad a’r sancsiynau yn erbyn yr unigolyn yn llawer mwy sylweddol oherwydd roedd posib i’r rheithgor a’r barnwr weld ffilm o leoliad y trosedd.
“Roedd yn bosib iddynt weld y ffôn yn cael ei dynnu oddi wrth y wal. Roedd yn bosib iddynt weld y difrod. Roedd yn bosib iddynt weld anafiadau’r dioddefwr. Roedd yn bosib iddynt weld ymarweddiad y troseddwr a oedd yn feddw.
“Rydym wedi cael adborth ardderchog gan Wasanaeth Erlyn y Goron a’r gred ydi bod offer fideo a wisgir ar y corff yn gwneud gwahaniaeth.
“Mae camerâu fideo a wisgir ar y corff yn dechnoleg dda. Roedd modd i ni weld, drwy beilota’r dyfeisiadau hyn bod hwn yn fuddsoddiad da i gefnogi swyddogion heddlu i blismona’r strydoedd yn ddiogel a chasglu tystiolaeth o ymddygiad gwael a gweithgarwch troseddol.
"Mae’r ffaith bod y Comisiynydd Heddlu a Throsedd wedi cytuno i brynu mwy o gamerâu yn wych ac mae’r newyddion i’w groesawu yng Ngogledd Cymru.”
Meddai Richard Eccles, Ysgrifennydd Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru: “Mae’n wych gweld bod y Comisiynydd yn cyflawni ei addewid ac yn sicrhau fod gan bob swyddog reng flaen fynediad 24/7 i’r camerâu hyn.
"Mae’r manteision i’r swyddogion a’r cymunedau yn aruthrol; mae’r camerâu hyn yn barod yn recordio tystiolaeth gywir o’r sefyllfaoedd y mae swyddogion heddlu yn eu hwynebu ar strydoedd Gogledd Cymru.
"O ganlyniad i’r buddsoddiad hwn gan y CHTh byddwn yn euogfarnu mwy o droseddwyr, byddwn yn cael llai o gwynion a bydd gan y cyhoedd fwy o hyder ynom.”