Mwy o Newyddion

RSS Icon
29 Mehefin 2016

Dathlu hanner canmlwyddiant buddugoliaeth Gwynfor Evans

AR noson gynnes o haf yng Nghaerfyrddin yn 1966, cafodd gwleidyddiaeth Prydain ei newid am byth.

Ymgasglodd torf anferth yn y Clos Mawr i weld Gwynfor Evans yn cael ei ethol fel Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru.

Roedd yn ddaeargryn gwleidyddol, ac yn fuan wedyn fe enillodd yr SNP sedd yn yr Alban.

Yn marn llawer, isetholiad Caerfyrddin ar 14 Gorffennaf 1966 oedd y sbarc wleidyddol a daniodd y daith hir i ddatganoli yn y ddwy wlad.

Hanner can mlynedd yn ddiweddarach, bydd plac ‘bas-relief’ i goffáu gorchest hanesyddol Gwynfor yn cael ei godi y tu allan i’r Neuadd Ddinesig (y Guildhall) yn ystod dathliad arbennig ar bnawn Sadwrn, 16 Gorffennaf.

Gwaith y cerflunydd Cymreig blaenllaw Roger Andrews yw’r plac efydd mawr.

Mae’r ddelwedd yn seiliedig ar lun a dynnwyd gan ffotograffydd o Gaerfyrddin, y diweddar Ken Davies, yn ystod buddugoliaeth gyntaf Gwynfor mewn Etholiad Cyffredinol. Talwyd am y gwaith i gyd trwy gyfraniadau cyhoeddus. Pwyllgor lleol Ymddiriedolaeth Gwynfor Evans fu’n gyfrifol am drefnu’r gofeb.

“Mae’n bwysig cofio am fuddugoliaeth Gwynfor yn 1966 gan fod hynny wedi newid holl hanes gwleidyddol Cymru,” meddai Peter Hughes Griffiths, ar ran yr Ymddiriedolaeth.

“Ni fyddai Senedd yng Nghaerdydd heddiw oni bai am Gwynfor Evans. Dyna pam mae’n bwysig gosod cofeb yng Nghaerfyrddin i nodi cyfraniad y gŵr arbennig hwn.”

Bydd y gofeb yn cael ei ddadorchuddio gan aelod o’r teulu a Cyril Jones, asiant Gwynfor yn ystod yr is-etholiad hanesyddol.

Yn syth ar ôl y seremoni dadorchuddio, cynhelir achlysur o’r enw ‘Wyt ti’n cofio’r Sgwâr Caerfyrddin?’ yng Nghapel Heol Awst, tua chanllath i fyny’r stryd.

Bydd Dafydd Iwan, Dafydd Wigley, Côr Seingar ac eraill yn cymryd rhan, gydag aelodau o deulu Gwynfor yn bresennol. Bydd Jonathan Edwards AS yn darllen rhannau o araith gyntaf Gwynfor i Dŷ’r Cyffredin ym 1966.

Mae croeso cynnes i bawb i fynychu’r dadorchuddio ac i’r achlysur fydd yn dilyn yn Heol Awst.

Rhannu |