Mwy o Newyddion
Bydd Plaid Cymru yn dal yr ymgyrch Gadael i gyfrif ar fater y Llw
Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi addo gofalu yr anrhydeddir y Llw a wnaed i bobl Cymru yn ystod ymgyrch reffernedwm yr UE.
Dywedodd Leanne Wood fod yr ymgyrch Gadael wedi sicrhau eu buddugoliaeth yn y refferendwm ar sail Llw a wnaed i bobl Cymru.. Yr oedd y Llw honno yn cynnwys y canlynol:
- Y byddai £490m y flwyddyn ar gael i Gymru, y gallwn ni ddewis ei wario ar ein GIG
- Y byddai cronfeydd strwythurol a chronfeydd amaethyddol yn cael eu gwarchod
- Y byddai cronfeydd fyddai o fudd i brifysgolion a sector gwyddoniaeth a thechnoleg Cymru yn cael eu gwarchod
- Y gallai’r Deyrnas Gyfunol reoli ei ffiniau a pharhau i fasnachu gyda’r Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd Leanne Wood nad oedd y bleidlais i Adael yn bleidlais i ganoli mwy o bwerau yn San Steffan.
Meddai arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood: “Sicrhaodd yr ymgyrch Gadael eu buddugoliaeth ar sail Llw i bobl Cymru.
“Dywedasant y buasai hyd at £490m y flwyddyn ar gael i Gymru ac y byddai modd i ni ddewis ei wario ar ein GIG. Mae hwn yn swm o arian yn ychwanegol at yr hyn a ragfynegwyd fel arfer trwy ddiwygio fformiwla Barnett.
“Addawodd yr ymgyrch Gadael hefyd y byddai’r holl gronfeydd strwythurol ac amaethyddol yn cael eu gwarchod.
“Yn y Llw hwn roeddent hefyd yn cynnwys yr arian sy’n mynd i’n prifysgolion a’n sector gwyddoniaeth a thechnoleg.
“Dywedasant hefyd y gallai’r Deyrnas Gyfunol reoli ei ffiniau ei hun a pharhau hefyd i fasnachu gyda’r Undeb Ewropeaidd.
“Amser a ddengys a gedwir at y Llw hon, ond bydd Plaid Cymru yn dal yr ymgyrch Gadael i gyfrif o ran ei Llw i Gymru ac yn brwydro i sicrhau y cedwir addewidion.”