Mwy o Newyddion

RSS Icon
16 Mehefin 2011

Cwtshio'r llyfrgell - mis i fynd

Ar ddydd Gwener 15 Gorffennaf bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cofnodi canmlwyddiant gosod ei charreg sylfaen. I ddathlu’r diwrnod hanesyddol hwn mae’r Llyfrgell yn galw ar ei defnyddwyr a chefnogwyr i gofleidio’r adeilad ar gyfer yr hyn a dybir bydd y cwtsh mwyaf yn y byd!

Gosodwyd y garreg sylfaen gan y Brenin Siôr V i sain tanio gynnau gan fflotila o gychod ym Mae Ceredigion. Bydd dathliadau’r canmlwyddiant eleni ddim mor ffurfiol - ond bydd yr un mor uchelgeisiol.

Amcangyfrifa’r Llyfrgell y bydd angen 450 person er mwyn creu cadwyn ddynol o amgylch yr adeilad hanner kilomedr mewn cylchedd. Er bod y Llyfrgell yn cyflogi hyd at 300 o staff bydd dal angen help llawer o’r cyhoedd i ddangos eu cefnogaeth i’r adeilad hanesyddol a’i thrysorau amhrisiadwy.

"Dros y blynyddoedd mae miloedd o bobl wedi ymweld â’r Llyfrgell i ddarllen yma neu i weld arddangosfa neu ddigwyddiad. Hoffem eu gwahodd yn ôl i ymuno â ni i greu cadwyn ddynol i ddathlu cyfraniad y Llyfrgell i fywyd diwylliannol a deallusol Cymru ac i dref Aberystwyth," meddai’r Llyfrgellydd, Andrew Green.

Ffurfir y gadwyn ddynol am 2.15. p.m. ar ddydd Gwener 15 Gorffennaf ac fe’i dilynir gan seremoni fer ar flaen yr adeilad neo-glasurol hardd gan Lywydd y Llyfrgell, Dafydd Wigley. Gwahoddir y cyhoedd sy’n rhan o’r cwtsh mawr fewn i’r adeilad am baned a chacen am ddim.

Gofynnir i gefnogwyr wisgo dillad coch os yw’n bosib – lliw logo’r Llyfrgell a’r Ddraig; fel y bydd y gadwyn i’w weld yn gliriach o bell.

"Sefydlwyd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar gefn ymgyrch codi arian ar lawr gwlad dros ganrif yn ôl. Yn hynny o beth mae’n unigryw ymysg holl lyfrgelloedd cenedlaethol y byd. Rydym nawr yn gofyn i bobl Cymru i ddangos eu cefnogaeth i’r Llyfrgell heddiw a chadarnhau fod yr adeilad a’i chasgliadau yma i wasanaethu pobl Cymru a’r byd am ganrif arall," ategodd y Llyfrgellydd.


Ffeithiau am y Llyfrgell

Cylchedd – 500m
Uchder – 18m
Lloriant – 35,000m


Hanes yr Adeilad

Yn 1905 penderfynodd y Cyfrin Gyngor y byddai gan Gymru Llyfrgell ac Amgueddfa Genedlaethol. Penderfynwyd lleoli’r Llyfrgell yn Aberystwyth a’r Amgueddfa yng Nghaerdydd.

Roedd y Llyfrgell i’w lleol ar dir a brynwyd ac a roddwyd i’r Llyfrgell gan yr Arglwydd Rendel, cyn Aelod Seneddol dros Sir Drefaldwyn. Cynhaliwyd cystadleuaeth i ddylunio’r adeilad gyda dau brif frîff; i ddylunio adeilad fyddai’n dangos pwysigrwydd dysg a chynnwys y casgliad ac yn ail i gadw mewn cof lleoliad yr adeilad. Enillwyd y gystadleuaeth gan y pensaer Sidney Kyffin Greenslade. Er nad hon oedd y cynllun mwyaf rhwysgfawr fe’i ffafriwyd gan y pwyllgor dewis gan ei fod yn ‘squat building’ ac felly’n fwy pwrpasol ar gyfer gwrthsefyll gwyntoedd neu stormydd mawr o’r môr a’r gorllewin.

Dechreuwyd y gwaith adeiladu yn 1911. Defnyddiwyd gwenithfaen Cernyw ar y llawr waelod a charreg wen Portland i’r lloriau uwchben. Cartrefwyd y llyfrgell ym Maes Lowri am y blynyddoedd cyntaf. Symudodd y staff a’r casgliadau cyntaf i’r adeilad yn 1916. Oherwydd cyfyngiadau ariannol y Rhyfel Mawr a’r Dirwasgiad ni chwblhawyd yr adeilad nes 1936 gan ei hagor yn swyddogol gan y Brenin Siôr VI yn 1937.


Digwyddiadau eraill Dathliadau Canmlwyddiant yr Adeilad

Dydd Mercher 13 Gorffennaf, 1.15 p.m.
Y Llyfrgell ar Ffilm – hen glipiau ffilm o’r Llyfrgell gan gynnwys gosod y garreg sylfaen, agoriad swyddogol 1937 a ffilm gartref gan Syr Ifan ab Owen Edwards.

Dydd Iau 14 Gorffennaf, 1.15. p.m.
Gwyneth Lewis – Barddoniaeth a sgwrs yng nghwmni Bardd Cenedlaethol Cymru adeg canmlwyddiant sefydlu’r Llyfrgell.

Dydd Gwener 15 Gorffennaf, 10.30 a.m. a 3.30 p.m.
Taith Dywys o’r Adeilad a’i Hanes yng nghwmni’r pensaer Tony Morgan

 

Am wybodaeth bellach:

Gofynnwn i unrhyw unigolyn, deulu, clwb, busnes neu gymdeithas sydd am gymryd rhan yn y fenter gynhyrfus yma i gysylltu â:
Sian Henson ar 01970 632545 sian.henson@llgc.org.uk

Rhannu |