Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Mehefin 2016

“Mae’n bryd rhoi annibyniaeth ar yr agenda” – Leanne Wood

Mae Leanne Wood Arweinydd Plaid Cymru wedi cynnig undeb newydd o genhedloedd annibynnol er mwyn diogelu dyfodol Cymru a chynnal perthynas adeiladol rhwng bob rhan o’r Deyrnas Gyfunol yn sgil y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Pwysleisia Leanne Wood fod pleidlais dydd Iau wedi newid popeth, a bod nawr angen ailddylunio’r berthynas rhwng cenhedloedd y Deyrnas Gyfunol.

Galwodd hi ar bobl ar ddwy ochr y ddadl Ewropeaidd yng Nghymru i uno y tu ôl i’r achos i greu dyfodol cryf, goddefgar ac eangfrydig i’r genedl.

Dywedodd Leanne Wood: “Mae cefnogaeth Plaid Cymru i annibyniaeth yn hir sefydlog, ond rydym wedi bod yn realistig am yr amseru.

“Newidiodd popeth dydd Iau. Gyda’r Alban yn pleidleisio i aros, mae’n debyg na fydd y DG yn bodoli yn y dyfodol agos. Bydd Gogledd Iwerddon hefyd yn ystyried ei dyfodol.

“Ni allwn adael i Gymru ddod yn atgof o endid ‘LoegraChymru.’

“Er nad ni sy’n gyfrifol am y sefyllfa hon, creda Plaid Cymru mai ail-ddylunio’r Deyrnas Gyfunol bresennol yw’r unig opsiwn. Undeb newydd o genhedloedd annibynnol yn gweithio gyda’i gilydd er mwyn eu buddiannau cyffredin.

“Credaf y byddai’r Gymru annibynnol hon mewn cyd-destun cwbl wahanol i refferendwm yr wythnos diwethaf eisiau bod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

“Mae’r her sy’n ein hwynebu yn enfawr. Rhaid i bawb ohonom, boed ni wedi pleidleisio i aros neu adael, fod yn barod i fod yn gadarn a hyderus wrth lunio dyfodol cryf, goddefgar ac eangfrydig i’n cenedl.

“Byddaf yn amlinellu’r ffordd ymlaen mewn cynhadledd arbennig i aelodau Plaid Cymru yn fuan ble y bydd cyfle i ni drafod ymhellach.”

Rhannu |