Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Mehefin 2016

Leanne Wood a Gruff Rhys ymysg cannoedd fydd yn dathlu cyfraniad yr Undeb Ewropeaidd i Gymru heno

Bydd cannoedd o bobl Caerdydd yn ymgynnull yng nghanol y ddinas heno, nos Fawrth 28 Mehefin, i ddathlu cyfraniad yr Undeb Ewropeaidd i Gymru.

Meddai un o drefnwyr y digwyddiad, Beca Harries: “Fe bleidleisiodd pobl Caerdydd i aros yn yr Undeb Ewropeaidd, ac roedden ni’n teimlo ei bod hi’n bwysig dathlu hynny a dangos nad yw’r canlyniad terfynol yn cynrychioli ein safbwynt ni.

"Byddai’n hawdd digalonni a bod yn flin, ond rydyn ni eisiau gweithredu’n gadarnhaol a dangos y ffordd fel prifddinas.

"Rydyn ni eisiau i Gymru fod yn wlad Ewropeaidd fodern a goddefgar sy’n edrych allan ar y byd.”

Meddai un arall o’r trefnwyr, Sioned James: “Nid protest yn erbyn y canlyniadau yw’r digwyddiad, ond cyfle i ddangos ein gwerthfawrogiad o'r Undeb Ewropeaidd, a phopeth mae'r Undeb wedi'i gynnig i Gymru. Ymunwch gyda ni!”

Mae nifer o siaradwyr wedi’u cadarnhau ar gyfer y digwyddiad, gan gynnwys arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood, yr ymgyrchydd gwrth-hiliaeth Shazia Awan (Ceidwadwyr) a Meic Birtwistle o’r Blaid Lafur.

Yn siarad hefyd bydd Beth Button o UCMC, yr ymgyrchydd Emyr Gruffydd a Jamie Bevan o Gymdeithas yr Iaith.

Bydd cynrychiolwyr o gymunedau ffoaduriaid a cheiswyr lloches Caerdydd hefyd yn bresennol. Gareth Potter fydd yn cyflwyno’r noson a bydd y canwr Gruff Rhys yn perfformio yn ystod y digwyddiad.

Rhannu |