Mwy o Newyddion
Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn nodi canmlwyddiant Brwydr y Somme
Bydd Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn perfformio mewn cyngerdd i nodi canmlwyddiant Brwydr y Somme ar 1 Gorffennaf yn Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd.
Bydd y cyngerdd, dan arweiniad Adrian Partington, yn cynnwys cerddoriaeth gan George Butterworth, Francis Purcell Warren, Gordon Jacob ac Albert Roussel - pob un wedi gwasanaethu neu wedi marw ym Mrwydr y Somme - yn ogystal â cherddoriaeth gan Herbert Howells a Delius a ysgrifennwyd er cof am y rhai a fu farw.
Ymunodd George Butterworth a Francis Purcell Warren â’r Troedfilwyr gan ymladd ym Mrwydr y Somme yn 1916.
Roedd y ddau ohonynt yn Is-gapteiniaid ar eu hadrannau a bu farw’r ddau wrth ymladd yn y frwydr.
Mae modd gweld eu henwau ar Gofeb Thiepval yn Ffrainc, sy’n coffáu’r 70,000 a aeth ar goll yn y Somme.
Yn ogystal â darn pruddglwyfus Butterworth, A Shropshire Lad ac Ave Verum gan Warren, mae’r gerddorfa’n perfformio Symffoni Cyntaf, Gordon Jacob, a gyfansoddwyd i goffáu ei frawd, Anstey Jacob, a gafodd ei ladd yn y Somme.
Bu Gordon Jacob yn gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf hefyd, ac roedd yn un o’r nifer fechan o’i fataliwn i oroesi. Gwasanaethodd y cyfansoddwr o Ffrainc, Albert Roussel yn wirfoddol fel gyrrwr ambiwlans ar Ffrynt y Gorllewin, ac ar ôl y rhyfel, treuliodd ei amser yn cyfansoddi, gan ysgrifennu Pour une fête de printemps yn 1920.
Roedd Herbert Howells yn un o gyd-fyfyrwyr Warren yn y Coleg Cerdd Brenhinol, ac ysgrifennodd Alargan i Fiola, Pedwarawd Llinynnol a Cherddorfa Linynnol yn fuan ar ôl i’w ffrind farw, a chyflwynodd y darn iddo ef.
Yn rhan olaf y cyngerdd, bydd Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn perfformio Requiem, gan Delius, sydd wedi’i gyflwyno er cof am yr holl artistiaid ifanc a fu farw yn y rhyfel. Bydd Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn perfformio Somme ar 1 Gorffennaf am 7:30pm yn Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd.
Er mwyn archebu tocynnau, ewch i bbc.co.uk/now neu ffoniwch Linell Cynulleidfaoedd y BBC ar 0800 052 1812. Rhan o'r Rhyfel Byd Cyntaf gan BBC Cymru Wales. Darlledir Somme yn fyw ar BBC Radio 3.