Mwy o Newyddion

RSS Icon
27 Mehefin 2016

Cyfreithiwr lleol fydd ymgeisydd Plaid Cymru yn Is-Etholiad Felinheli

Wrth i Gadeirydd Grŵp Cynghorwyr Plaid Cymru dalu gwrogaeth i Aelod Cynulliad newydd Arfon, Siân Gwenllian, cyhoeddwyd y bydd ymgeisydd newydd Plaid Cymru ar gyfer Ward Y Felinheli, y cyfreithiwr Gareth Griffith, yn sefyll Is-Etholiad ddydd Iau, 14 o Orffennaf.

Dywedodd Cadeirydd Grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd, Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn: "Mae Grŵp Cynghorwyr Plaid Cymru yma yng Ngwynedd wedi profi brwdfrydedd, ymrwymiad a phenderfyniad Siân Gwenllian wrth gyflawni ei gwaith dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'n amser nawr i etholwyr Arfon elwa ar y brwdfrydedd yma a’i hagwedd iach sydd wedi llwyddo i gyflawni cymaint dros drigolion yr ardal.

"Rydym yn diolch o waelod calon iddi am ei gwaith diflino dros bobl Gwynedd yn ystod ei hwyth mlynedd fel Cynghorydd Sir. Dymunwn y gorau iddi wrth iddi setlo yn ei swydd wleidyddol newydd yng Nghaerdydd fel Aelod o'r Cynulliad yn cynrychioli pobl Arfon," esboniodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn.

Yn wirfoddolwr cymunedol brwd, mae Gareth Griffith, wedi byw ym mhentref Felinheli ers 30 mlynedd. Ef yw Is-Gadeirydd presennol Gŵyl y Felin ac mae wedi bod yn aelod gweithgar o dîm trefnu gŵyl ddiwylliannol y pentref am gyfnod o 15 mlynedd.

Mae’n dad priod i ddau o blant, yn gyn-lywodraethwr ysgol ac wedi rheoli timau pêl-droed yn yr ardal ers nifer o flynyddoedd.

Dywedodd Gareth: "Dwi’n ei theimlo hi’n fraint cael fy newis fel ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer Ward Felinheli. Pe bawn yn cael fy ethol yn Gynghorydd Sir, hoffwn sicrhau pobl bod gen i’r angerdd a’r profiad i ddatblygu fy ngwaith gwirfoddoli ymhellach yn y pentref.

"Byddai'n bleser gweithio gyda Siân a byddai'n fraint datblygu'r prosiectau llwyddiannus y mae hi wedi gweithio'n ddiflino arnynt yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’r un peth yn wir am Gyngor Cymuned Y Felinheli. Dwi'n credu'n gryf bod cydweithio agos yn allweddol i lwyddiant y pentref tra ein bod ni’n parhau i ddatblygu Felinheli yn bentref diogel a llewyrchus."

Byddai'r cyfreithiwr, sydd a 26 mlynedd o brofiad yn y sector gyfreithiol, yn dod â chyfoeth o brofiad i'r bwrdd fel cynrychiolydd Gwynedd. Mae Gareth yn gyn-ysgrifennydd Undeb a oedd yn cynrychioli staff Llysoedd Ynadon Gogledd Cymru ac mae wedi gwirfoddoli am nifer o flynyddoedd gyda'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth. Mae hefyd yn gyn-aelod o fwrdd GISDA, cwmni sy'n cynnig cefnogaeth i bobl ifanc fyw yn annibynnol.

Dywedodd Siân Gwenllian Aelod Cynulliad Arfon: "Mae wedi bod yn fraint gweithio dros bobl Y Felinheli yma yn fy milltir sgwâr, a dwi’n parhau i wasanaethu fy nghyd-bentrefwyr, llawer ohonynt yn ffrindiau agos, yn y Cynulliad. Gyda thristwch dwi’n gorffen fy nghyfnod yn cydweithio â’m cydweithwyr Plaid Cymru yng Nghyngor Gwynedd. Serch hynny mae fy etholiad llwyddiannus fel Aelod Cynulliad yn golygu y byddwn yn parhau i weithio ar y cyd er lles Gwynedd.

"Dwi'n falch y bydd Gareth Griffith yn sefyll fel ymgeisydd i gynrychioli Felinheli ar Gyngor Gwynedd. Mae ganddo'r profiad, yr ymrwymiad a'r gallu i gynrychioli pobl y ward. Does gen i ddim amheuaeth y bydd yn gwneud Cynghorydd rhagorol, gyda chefnogaeth ei deulu, Christine a'r plant."

Cyhoeddwyd y bydd dau ymgeisydd yn sefyll yn Isetholiad Y Felinheli a gynhelir ar ddydd Iau, 14 Gorffennaf, sef Gareth Griffith, Plaid Cymru, ac Andrew Kinsman, Ceidwadwr

 

Rhannu |