Mwy o Newyddion

RSS Icon
27 Mehefin 2016

Gemau Cymru bump wythnos union cyn Gemau Rio

Union pum wythnos cyn i’r Gemau Olympaidd gychwyn yn Rio, bydd Cymru yn cynnal eu fersiwn eu hunain o’r digwyddiad aml-chwaraeon yng Nghaerdydd.

Bydd Gemau Cymru, sy’n cael ei drefnu gan yr Urdd, yn cael ei gynnal yn ardal Caerdydd 1 - 3 Gorffennaf. Dyma’r unig ddigwyddiad yng Nghymru sydd yn cynnig platfform i athletwyr ifanc gorau Cymru gystadlu mewn 11 camp wahanol mewn un digwyddiad.

Bydd dros 1,200 o bobl ifanc yn cystadlu yn ystod y penwythnos yn yr 11 camp wahanol - athletau, gymnasteg, pêl-rwyd, rygbi 7-bob-ochr, tennis bwrdd, rhwyfo dan do, triathlon, jiwdo a chanŵio gyda dwy gamp newydd wedi eu hychwanegu eleni - hoci a chodi pwysau.

Cynhaliwyd y Gemau Cymru cyntaf yn 2011 yn ystod y cyfnod paratoi ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain 2012. Mae yn un enghraifft o waddol y Gemau Olympaidd yma yng Nghymru.

Mae llysgennad ifanc ar gyfer pob un o’r campau -pobl ifanc fydd yn ysbrydoliaeth i’r cystadleuwyr. Mae nifer o’r llysgenhadon wedi cynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn 2014, gan gynnwys Hannah Brier a Dewi Griffiths (athletau), Raer Theaker (gymnastics), Jade Lewis (Jiwdo) a Catrin Haf Jones yn y Gemau Iau (codi pwysau).

Gemau Cymru sydd yn gyfrifol am ennyn diddordeb dwy o’r llysgenhadon yn eu camp. Un ohonynt yw Awen Lewis, enillodd y gystadleuaeth acwathlon yn 2011, ac yn dilyn hynny ymunodd gyda chlwb triathlon lleol. Heddiw, mae yn Sgwad Datblygu Ranbarthol Cymru ac wedi cynrychioli Cymru yn yr IRC yn Eton Dorney.

Yr un arall yw’r llysgennad canŵio, Elise Churchill, ble gafodd ei thalent ei ddarganfod mewn rhagras i gystadlu yn Gemau Cymru. Ers hynny mae wedi ennill amryw o rasys slalom a sbrint ac yn sgwad Cymru ar gyfer y ddwy elfen o’r gamp.

Yn ôl Gary Lewis, Cyfarwyddwr Chwaraeon yr Urdd, “Bellach yn ei chweched flwyddyn, mae Gemau Cymru bellach wedi sefydlu ei hun fel digwyddiad arwyddocaol ar galendr chwaraeon athletwyr ifanc, gan gyfoethogi eu llwybr posibl i’r Gemau Olympaidd, Cymanwlad a Pharalympaidd.

“Rydym yn falch iawn o safon y cystadleuwyr ydym ni wedi eu cael dros y blynyddoedd - gyda nifer o’r cystadleuwyr bellach yn cynrychioli eu gwlad. Hwn yw prif ddigwyddiad aml-chwaraeon Cymru ac rydym yn falch iawn o gael y cyfrifoldeb o’i drefnu.

Mae hefyd yn enghraifft wych o waddol Gemau Olympaidd Llundain 2012 yng Nghymru.”

Caiff Gemau Cymru ei drefnu gan Urdd Gobaith Cymru mewn partneriaeth gyda Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru. Caiff ei noddi gan HSBC ac Intergo Doodson.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, Ken Skates, sydd hefyd yn gyfrifol am Ddigwyddiadau Pwysig a Chwaraeon Elitaidd yng Nghymru: “Rydym wedi ymrwymo i roi cyfleodd i Gymry ifanc o bob cefndir i gymryd rhan mewn chwaraeon a chael cyfle i arddangos eu doniau ar lwyfan cenedlaethol.

“Dyna pam fy mod yn falch ein bod yn cefnogi Gemau Cymru eto eleni. Mae digwyddiad fel hyn yn cynnig platfform delfrydol i’n hathletwyr ifanc talentog brofi eu gallu mewn awyrgylch gystadleuol all eu hysbrydoli i fynd ymlaen a llwyddo fel sêr chwaraeon o’r radd flaenaf yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Brian Davies, Rheolwr Perfformiad Elitaidd Chwaraeon Cymru, “Mae hwn yn gyfle unigryw yng Nghymru i gymaint o bobl ifanc gystadlu mewn digwyddiad o’r radd flaenaf, gan gael profiad o bentref athletwyr, fel rhan o’r llwybr i’w datblygu yn eu maes.

“Mae gennym ni yng Nghymru hanes y gallwn fod yn falch ohono yn cynhyrchu athletwyr llwyddiannus ac mae profiadau, megis Gemau Cymru, yn chwarae rhan allweddol wrth roi cyfle i’r athletwyr ifanc drawsnewid eu gallu cynhenid i lwyddiant yn y dyfodol.”

Rhannu |