Mwy o Newyddion
Arweinydd Plaid Cymru Gwynedd yn galw am bolisi economaidd rhanbarthol newydd
Yn dilyn y bleidlais i’r Deyrnas Gyfunol adael yr Undeb Ewropeaidd (UE), mae Dyfed Edwards, Arweinydd Plaid Cymru Cyngor Gwynedd, wedi galw am weithredu polisi economaidd rhanbarthol newydd i Gymru.
Gan gyfeirio at ganlyniad y Refferendwm dywedodd y Cynghorydd Edwards: "Er fy mod yn hynod o falch fod pobl Gwynedd wedi pleidleisio yn glir i aros yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd, mae’r bleidlais gyffredinol yng ngweddill y DU yn golygu y bydd ein perthynas ffurfiol gyda'r UE nawr yn dod i ben.
"Bydd gan hyn oblygiadau enfawr i ddyfodol ein rhagolygon cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol yn y sir.
"Fel rhan o’r ardal yng Nghymru sydd wedi cymhwyso ar gyfer arian Amcan 1 a Chydgyfeiriant, mae cronfeydd strwythurol Ewropeaidd wedi chwarae rhan fawr yn ariannu prosiectau allweddol yng Ngwynedd dros y blynyddoedd gan arwain at welliannau i'n hisadeiledd a chreu cyfleoedd cyflogaeth.
"Mae hyn mewn cyd-destun lle mae Gwynedd wedi bod ar gyrion y Deyrnas Unedig a Chymru o ran polisi economaidd-gymdeithasol.
"Gyda Gwynedd bellach yn colli miliynau o bunnoedd o'r hyn sydd wedi bod yn ffynhonnell gyson o arian Ewropeaidd dros gyfnod, mae'n hanfodol bod cyllid tebyg yn cael ei fuddsoddi yn y sir fel rhan o bolisi economaidd rhanbarthol newydd a fydd yn parhau i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau sydd wedi cael eu cydnabod gan bolisi Ewropeaidd dros gyfnod hir.
"Yn sicr, rŵan yw'r amser i edrych o’r newydd ar fformiwla 'Barnett' sydd wedi bod yn sail i ddosbarthu arian llywodraeth y Deyrnas Unedig i Gymru.
"Mae hefyd yn amserol i sicrhau bod polisi economaidd Llywodraeth Cymru yn cael ei adolygu er mwyn llenwi'r bwlch enfawr sydd i ddod i ardaloedd, megis Gwynedd, oherwydd diffyg cronfeydd strwythurol Ewropeaidd i’r dyfodol.
“Pleidleisiodd Gwynedd yn gadarnhaol i aros yn rhan o undeb o wledydd Ewropeaidd yn y refferendwm diweddar.
"Rydym yn falch o'n cymunedau lleol ein hunain, ac yn dymuno creu cyd-destun o gynhwysiant ac amrywiaeth lle mae pob dinesydd yn cael ei werthfawrogi ac yn gallu cyfrannu at ddyfodol ein sir.
“Yn dilyn cyfnod o ymgyrchu negyddol sy’n aml, wedi cynnwys elfen o gasineb, fe sicrhawn mai gobaith fydd y llwybr i’n harwain ni i ddyfodol newydd.”