Mwy o Newyddion

RSS Icon
27 Mehefin 2016
Gan KAREN OWEN

Yr Archdderwydd newydd yn cofio merched Môn

Galw ar i Gymru gofio cyfraniad merched i fywyd y genedl ac i fyd llenyddiaeth a wnaeth Archdderwydd newydd Cymru, Geraint Llifon, ar ôl cael ei orsedd yng Nghaergybi ddydd Sadwrn..

Yn ei anerchiad o lwyfan neuadd Ysgol Uwchradd Caergybi, gan y bu'n rhaid cynnal seremoni'r Orsedd dan do oherwydd y glaw, fe dynnodd y Prifardd Geraint Lloyd Owen ar hanes tair merch yn hanes Môn ei hun - sef Dwynwen, Branwen a Siwan.

Ac, wrth ddiolch i'w ragflaenydd, yr Archdderwydd Christine, y wraig gyntaf i ddal y swydd, fe aeth yn ei flaen i ganolbwyntio ar ran y ferch, ym Môn Mam Cymru, yn rhoi, yn meithrin ac yn creu yn y Gymraeg.

"Cawn ein hatgoffa cyn i ni groesi Pont y Borth mai ‘Môn Mam Cymru’ yw Ynys Môn," meddai Geraint Llifon. "Dyma ynys sydd am ddatgan mai ynys fenywaidd yw hi a dyma ynys sy’n barod i gydnabod hynny.

"Cariwyd corff Siwan ar draws Traeth y Lafan i briordy Llan-faes yma ym Môn.

"Ar dir yr ynys hon, ar lan afon Alaw y claddwyd tywysoges arall a ddaeth yn un o ferched mwyaf eiconig ein llên…

"Dewch i Aberffraw, safle un o lysoedd Llywelyn Fawr, gwr Siwan wrth gwrs, a chyn hynny lleoliad priodas Branwen ferch Llŷr. Yno y cyflwynwyd Pair y Dadeni i Matholwch brenin Iwerddon, gwr Branwen. Pair hynod oedd y pair hwn - os taflwyd milwyr marw i mewn iddo, byddent yn dod yn ôl yn fyw ond sylwch, yn filwyr heb iaith.

"Dweud brawychus. Onid iaith sy’n gwneud pobl ac yn ein gwneud ni'r hyn ydym ni? Onid iaith sydd â’r gallu cyfrin i adeiladu pontydd? Onid tynnu pŵer oddi wrth bobl a wneir wrth dynnu iaith oddi arnynt ac ohonynt? Ac onid pobl iaith ddylem ni fod ac ydym ni, pob un ohonom?"

Trwy ganmol Branwen am ddysgu iaith i aderyn drudwen, Siwan am ddangos arweiniad ac urddas, a Dwynwen am ddod â chariad i'r ynys, fe dalodd deyrnged i gadernid merched yr Ynys heddiw.

"Mae merched ac mae mamau ym Môn heddiw," meddai. "Merched sydd am gyflwyno’r iaith yn ystyr eang y gair. Llawer ohonynt yn ferched tawel yn y cefndir yn hyrwyddo, yn cynnal, yn cenhadu.

"Ac mae merched hefyd sy’n ferched cyhoeddus, sy’n egnïol, sy’n ysbrydoli, sy’n arwain. Branwen, Siwan a Dwynwen.

"Wrth groesi’r bont mae’r geiriau mwyn ac arwyddocaol, ‘Môn Mam Cymru’. Tri gair sy’n mynegi gwybod cyfrin, tri gair sy’n cario tynerwch ac addfwynder a chariad mewn byd treisgar swnllyd, cras a chreulon.

"Tri gair sy’n ysgogi a chalonogi, yn cynnal, yn bwydo, yn gwarchod," meddai Geraint Llifon.

"Tri gair y gellir credu yn eu dynoliaeth. Diolch i Fôn am ein hatgoffa o’r mamau a’r merched hynny."

Llun: Yr Archdderwydd Christine yn pasio'r awenau i Geraint Llifon

Rhannu |