Mwy o Newyddion
Gwedd newydd i Gastell Dinbych
Mae Castell Dinbych am gael gwedd newydd, fydd yn wellhad nid yn unig i un o safleoedd mwyaf poblogaidd gogledd ddwyrain Cymru, ond hefyd i holl dirlun hanesyddol Dyffryn Clwyd.
Bydd y Castell, â’i borthdy tri-thŵr sy’n coroni tref Dinbych, yn cau ei ddrysau ar ddydd Sul 24ain o Orffennaf, 2011 ac yn ail-agor ar ddydd Llun 6ed o Chwefror, 2012, tra bydd gwaith datblygu a buddsoddi eang yn cael eu cynnal.
Mae Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, yn buddsoddi £600,000 o’r Prosiect Twristiaeth Treftadaeth, sy’n cael ei gyllido gan Gydgyfeiriant yr UE, mewn canolfan ymwelwyr pwrpasol newydd, yn ogystal ag agor teithiau cerdded ar hyd waliau’r dref, gwella gwedd a chyflwyniad y cofadail a’r waliau, a gwella cysylltiadau gyda thirlun hanesyddol ehangach Dinbych.
Dywedodd Huw Lewis, Gweinidog Tai, Adfywiad a Threftadaeth: “Rwy’n falch fod Castell Dinbych yn derbyn y buddsoddiad hwn. Fel atyniad treftadaeth allweddol bydd y cyfleusterau newydd yn cynnwys popeth fyddai ymwelydd ei angen er mwyn deall, gwerthfawrogi a mwynhau’r dreftadaeth arbennig sydd gan Ddinbych i’w gynnig. Mae mynediad gwell a gweithgareddau hwyliog yn allweddol er mwyn gwneud safleoedd treftadaeth yn berthnasol a phleserus - i ymwelwyr a thrigolion lleol.
“Mae’n ddatblygiad cyffrous i gymuned Dinbych, a bydd datblygiadau Cadw yn y Castell yn ategu gwaith sydd eisoes wedi’i ymgymryd gan Gyngor Tref Dinbych i ddatblygu a hyrwyddo gwerth treftadaeth a thwristiaeth y dref hanesyddol.”
Ar hyn o bryd mae Castell Dinbych ar agor o 10yb i 5yh, â’r mynediad olaf hanner awr cyn amser cau. Pris mynediad yw £3.20 i oedolion (£2.80 ar gyfradd ostyngol). Mae tocyn teulu yn costio £9.20 (yn gymwys ar gyfer dau oedolyn a hyd at 3 plentyn). Am ragor o wybodaeth ffoniwch: 01745 813 385.