Mwy o Newyddion
Leanne Wood: Rhaid i sicrhau sefydlogrwydd economaidd i Gymru fod yn flaenoriaeth
Mae Leanne Wood Arweinydd Plaid Cymru wedi ymateb i fuddugoliaeth yr ymgyrch i Adael yr Undeb Ewropeaidd gan ddadlau y dylai sicrhau sefydlogrwydd i Gymru fod yn flaenoriaeth nawr.
Dywedodd Leanne Wood, tra bod yn rhaid parchu canlyniad y refferendwm, nid oedd hyn yn newid y ffaith fod gadael yr UE yn debygol o gael effaith negyddol ar yr economi Gymreig, gan bwysleisio fod Plaid Cymru “yn unedig, hyderus a phenderfynol” o sicrhau fod pwerau a chyllid hanfodol yn cael eu trosglwyddo o Frwsel i Gymru.
Meddai: “Mae pobl yng Nghymru ac yn rhannau eraill o’r DG wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd – rhaid parchu’r canlyniad hwnnw.
“Rhaid i sicrhau sefydlogrwydd economaidd a gwleidyddol i Gymru a gweddill y DG nawr fod yn flaenoriaeth.
“Gyda’r Alban yn pleidleisio i aros ac ail refferendwm annibyniaeth nawr ar y gorwel, nid oes dyfodol i’r DG yn ei ffurf bresennol.
Yn fuan, bydd Cymru, ei heconomi a’i chymunedau yn gwbl agored i elit San Steffan a rhaid cymryd camau cadarn i leihau effaith y rhain.
“Nawr, rhaid i’r ymgyrch i Adael anrhydeddu’r addewidion wnaed ganddynt i ddiogelu grantiau a chefnogaeth gyllidol i Gymru a’n Gwasanaeth Iechyd, nid yn unig hyd at 2020 dan raglenni cyfredol yr UE, ond tu hwnt hynny i’r dyfodol.
“Bydd Plaid Cymru’n gweithio i sicrhau fod pob ceiniog a phob grym allweddol sy’n cael eu trosglwyddo o Frwsel yn uniongyrchol yn dod i Gymru.
“Ar y bore tywyll ac ansicr hwn i’n gwlad, gall pobl fod yn siŵr fod Plaid Cymru yn unedig, hyderus a phenderfynol o gael y gorau i Gymru.
"Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu er mwyn grymuso ein sefydliad cenedlaethol a gwarchod ein cymunedau.”