Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Mehefin 2011

Oblygiadau ymhell y tu hwnt i Gymru

MAE ASE Plaid Cymru Jill Evans ac aelodau o Gymdeithas yr Iaith wedi cyfarfod y Comisiynydd Ewropeaidd dros Ddiwylliant, Androula Vassiliou, i drafod dyfodol S4C.

Cyfarfu’r ddirprwyaeth o bump, ynghyd â Jill Evans, y Comisiynydd yn Strasbourg. Mrs Vassiliou yw’r Comisiynydd Ewropeaidd y mae ei phortffolio yn cynnwys ieithoedd.

Yr oedd y cyfarfod yn gyfle i roi gwybodaeth i’r Comisiwn Ewropeaidd am y bygythiad i ddyfodol S4C oherwydd y toriad o naw deg pedwar y cant i gyllid y sianel, ac i amlygu ymrwymiad llywodraeth y DG i ddarlledu yn yr iaith Gymraeg dan y Siarter Ewropeaidd ar Ieithoedd Lleiafrifol.

Mae Jill Evans wedi gwrthod talu am ei thrwydded deledu fel protest am y toriadau i S4C ac fe’i cymerir i’r llys gan yr awdurdod trwyddedu. Mynegodd Mrs Vassiliou ei diddordeb yn yr ymgyrch

Wrth siarad wedi’r cyfarfod, dywedodd Ms Evans: “Mae’r ymosodiad ar S4C yn ymosodiad ar yr iaith Gymraeg ei hun. Fel un o ieithoedd cydnabyddedig yr UE, mae i hyn oblygiadau ymhell y tu hwnt i Gymru.

“Gwelir S4C fel patrwm i lawer o wledydd eraill, ac y mae’r Siarter Ewropeaidd ar Ieithoedd Lleiafrlifol yn mynnu darpariaeth deledu a radio yn ieithoedd perthnasol pob gwlad.

“Fel rhywun sydd wedi ymrwymo i hawliau siaradwyr ieithoedd lleiafrifol, rwy’n hyderus fod y Comisiynydd wedi cydnabod maint y bygythiad i S4C.

“Roedd yn gyfarfod adeiladol dros ben. Cyflwynwyd achos cryf iawn i’r Comisiynydd Vassiliou am ddyfodol S4C.

“Rwyf wedi gwrthod talu fy nhrwydded deledu fel protest yn erbyn ymosodiad llywodraeth San Steffan ar S4C.

“Carwn weld y cyfrifoldeb dros ddarlledu yn cael ei ddatganoli i’r Cynulliad Cenedlaethol, gan nad yw, yn amlwg, yn derbyn y parch dyledus gan lywodraeth San Steffan. Dylai ieithoedd lleiafrifol gael cydraddoldeb gydag ieithoedd Ewropeaidd eraill ym maes darlledu, sy’n golygu cyllid digonol a dim ymyrraeth gan wleidyddion.”

Ychwanegodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Roeddem yn falch o gael y cyfle i drafod yr argyfwng sy’n wynebu darlledu yn yr iaith Gymraeg gyda’r Comisiynydd.

“Ni fu gweinidogion llywodraeth y DG yn ddigon cwrtais hyd yn oed i gyfarfod â grwpiau fel ni, felly rydym yn ddiolchgar dros ben fod gwleidyddion ar y lefel uchel hon wedi gwrando ar ein pryderon.

“Mae’n amlwg fod gan y Comisiynydd ddiddordeb mawr yn y pwnc. Rydym yn ddiolchgar hefyd ei bod yn cydnabod y consensws cryf sy’n bodoli yng Nghymru yn erbyn y cynlluniau hyn, a bod dyfodol S4C yn fater o’r pwys mwyaf i ddiwylliant Cymru.”

Rhannu |