Mwy o Newyddion
Leanne Wood - Bydd ansicrwydd ynghylch pleidlais i adael yn effeithio waethaf ar fusnesau Cymreig
Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi herio’r Prif Weinidog Llafur i greu cynllun wrth gefn os digwydd i bleidlais Gadael gario’r dydd yn refferendwm yr UE.
Dywedodd Leanne Wood fod gan Gymru warged taliadau yn y fantolen fasnach o ran nwyddau y tu mewn i’r UE, yn groes i weddill y DG, sy’n golygu fod busnesau Cymreig yn fwy dibynnol ar fasnachu gyda’r UE.
“Cymru yw’r genedl sy’n allforio fwyaf yn y DG.
“Mae gennym warged taliadau yn y fantolen fasnach o ran nwyddau gyda’r UE - dyw hynny ddim yn wir yn achos y DG.
“Bydd ansicrwydd felly yn effeithio’n anghymesur ar fusnesau Cymreig ac economi Cymru.
“Mae angen i’r llywodraeth Lafur weithredu i liniaru’r effeithiau gwaethaf ar economi a busnesau Cymru, yn enwedig busnesau sy’n allforio, petai’r bleidlais o blaid gadael yn cario’r dydd.”