Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Mehefin 2016

Croesawu Adroddiad Gweithgor Iaith – rhaid cynllunio'r gweithlu

Mae ymgyrchwyr iaith wedi croesawu'r ffaith fod adroddiad gweithgor iaith a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth heddiw yn rhoi pwyslais ar gynllunio'r gweithlu. 

Mae'r adroddiad yn argymell gwneud y Gymraeg yn sgil hanfodol ar gyfer pob swydd newydd ym meysydd addysg a llywodraeth leol.

Dywedodd Toni Schiavone ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Mae'r adroddiad yn cynnig nifer o syniadau gwerthfawr iawn, yn enwedig o ran cynllunio'r gweithlu a'r angen am strategaeth hir dymor er mwyn cyrraedd y nod o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg, cynyddu defnydd yr iaith a lleihau'r allfudiad.

"Un o'r prif negeseuon clywon ni yn ystod ein hymgynghoriad wrth lunio ein dogfen weledigaeth y llynedd, oedd bod diffyg difrifol o ran sicrhau bod y gweithlu a'n gweithleoedd yn troi'n fwyfwy naturiol Cymraeg eu hiaith.

"Mae'n braf iawn gweld bod y gweithgor yn argymell ffyrdd penodol ymlaen. Yn sicr, dyw darpariaethau Mesur y Gymraeg ddim yn ddigonol er mwyn sicrhau bod rhagor o gweithleoedd Cymraeg yn y wlad.

"Ac rydyn ni'n edrych ymlaen at ystyried rhai o'r argymhellion wrth i ni gyhoeddi cynigion ar gyfer cryfhau'r ddeddfwriaeth iaith.

"Mae'n bwysig hefyd bod rhagor o adnoddau er mwyn i weithwyr ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

"Dim ond hyder sydd ei angen ar rai gweithwyr, ac mae angen sicrhau bod darpariaeth ym mhob awdurdod er mwyn gwella'r sefyllfa."

Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal trafodaeth yn y Senedd ar 5ed Gorffennaf ynglŷn â chryfhau Mesur y Gymraeg.

Mae'r Llywodraeth newydd wedi cyhoeddi y byddan nhw'n diweddaru'r ddeddfwriaeth iaith dros dymor y Cynulliad nesaf.

Llun: Toni Schiavone

Rhannu |