Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Mehefin 2016

Mesur Cymru yn 'aneglur, ansefydlog ac anghynaladwy' medd Plaid Cymru

Mae Plaid Cymru wedi galw’r Mesur Cymru newydd yn ‘aneglur, ansefydlog ac anghynaladwy’ gan honni ei fod yn ymgais i gadw cymaint o rym a phosib yng nghoridorau Whitehall.

Wrth i Fesur Cymru gael ail ddarlleniad yn y Tŷ Cyffredin heddiw, mae Arweinydd Grŵp Plaid Cymru yn San Steffan, Hywel Williams AS, wedi dweud fod y Mesur yn cadarnhau statws Cymru fel cenedl eilradd o fewn y DG, gan amlygu’r bwlch rhwng yr hyn sy’n cael ei gynnig i’r Alban a chynlluniau ar gyfer Cymru.

Wrth ymateb i’r ddadl, dywedodd Hywel Williams AS: “Mae Cymru’n haeddu setliad datganoli sy’n gynaliadwy, uchelgeisiol a theg.

"Mae pobl Cymru’n haeddu llywodraeth sy’n rhydd i dyfu’r economi Gymreig, i ailadeiladu ein Gwasanaeth Iechyd ac i drawsnewid ein system addysg.

“Yn hytrach na hyn rydym yn cael cynnig setliad aneglur, ansefydlog ac anghynaladwy a fydd yn cyfyngu ar allu’r Cynulliad i weithredu ac a fydd, heb os, yn arwain at fwy o bwyntio bys rhwng y ddwy lywodraeth.

“Mae’n ymddangos fod Llywodraeth y DG wedi gadael i Whitehall ddewis a dethol pa bwerau maent eisiau, heb ofyn am gyfiawnhad, a heb seilio hyn ar unrhyw egwyddor o gwbl.

"Y canlyniad yw Mesur sy’n cadw cymaint o rym a phosib yng nghoridorau Whitehall wrth ddatganoli’r lleiafswm.

“Diben gwreiddiol y Mesur oedd darparu datrysiad hirdymor – setliad datganoli a fyddai’n rhoi diwedd ar y cecru tragwyddol rhwng Caerdydd a San Steffan, gan gael gwared ar y gwallau o frys ac anghysondeb sydd wedi difetha datganoli yng Nghymru.

"Mae’r Mesur yn ei ffurf bresennol wedi methu a chyflawni’r amcanion hyn yn llwyr.

“Mae’n Fesur sy’n methu a rhoi rheolaeth i bobl Cymru dros eu hadnoddau eu hunain, tra bod pobl yr Alban yn mwynhau’r hawl hon.

"Mae’n Fesur sy’n cadw dŵr Cymreig yn nwylo swyddogion Whitehall, ond yn hapus i roi rheolaeth dros garthffosiaeth i bobl Cymru.

"Mesur sy’n credo fod y Cynulliad yn ddigon aeddfed i osod cyfyngiadau cyflymder gyrru, ond nid cyfyngiadau yfed a gyrru.

“Bydd Plaid Cymru yn cyflwyno nifer o welliannau i’r Mesur hwn gan sicrhau fod Cymru yn cael ei thrin gyda’r un parch a chenhedloedd eraill y DG.

"Rwy’n mawr obeithio y bydd y pleidiau eraill yn ymuno â ni i sicrhau’r setliad tecaf posib i Gymru.”

Rhannu |