Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Mehefin 2016

AS yn galw ar Gymdeithas Pêl-droed Lloegr i ddilyn esiampl Cymru

Mae Jonathan Edwards AS Plaid Cymru wedi galw ar Gymdeithas Pêl-droed Lloegr i ddilyn esiampl yr FAW (Cymdeithas Pêl-droed Cymru) gan gynghori cefnogwyr Lloegr sydd heb docyn i’r gêm i osgoi Lens a Lille dros y dyddiau nesaf.

Dymunodd Mr Edwards, a oedd yn Bordeaux dros y penwythnos i gefnogi Cymru yn eu buddugoliaeth hanesyddol yn eu pencampwriaeth pêl droed cyntaf er 1958, longyfarchiadau i gefnogwyr Cymreig am eu hymddygiad ond mynegodd bryder am ddiogelwch cefnogwyr dros y 48 awr nesaf, wrth i Gymru baratoi i wynebu Lloegr yn Lens, dim ond ambell filltir o Lille ble y bydd Rwsia yn chwarae yn erbyn Slofacia.

Cododd Mr Edwards y mater gyda Llywodraeth y DG mewn cwestiwn brys yn y Tŷ Cyffredin yn gynharach heddiw: “Fel rhywun a dreuliodd y penwythnos yn Bordeaux, a wnaiff yr Ysgrifennydd Gwladol ymuno â mi i longyfarch cefnogwyr Cymru am eu hymddygiad rhagorol?

“Fel cefnogwr pybyr, serch hyn, rwyf wir yn pryderu am y 48 awr nesaf wrth i gefnogwyr Cymreig ganfod eu hunain yng nghanol cyfuniad peryglus o gefnogwyr Rwsia a Lloegr, a lleiafrif sy’n ymddangos yn benderfynol o achosi trwbl.

“Mae Cymdeithas Pêl Droed Cymru wedi cynghori cefnogwyr heb docynnau i beidio teithio i Lens ac i gadw draw o Lille.

"A wnaiff Llywodraeth y DG alw ar FA Lloegr i wneud datganiad tebyg a galw arnynt i gymryd cyfrifoldeb am weithredoedd rhai o’u cefnogwyr yn hytrach na beio pawb arall?”.

Ychwanegodd Mr Edwards: “Ni ellir esgusodi’r ymddygiad gwarthus a welwyd ym Marseille dros y penwythnos.

 

“Gellir dadlau nad oedd y penderfyniad i gynnal gem Cymru v Lloegr mewn tref fechan ond nepell o Calais yn syniad doeth. Bydd Lens yn orlawn o bobl, nifer ohonynt heb docynnau mae’n debyg.

“O ystyried yr hanes o gystadlu ym myd chwaraeon rhwng y ddwy genedl dylai hwn fod yn achlysur mawreddog, ond nid oes syndod fod pryderon y bydd trwbl yn codi unwaith eto.

“Mae’r mwyafrif helaeth o gefnogwyr o bob cenedl yn awyddus i gefnogi eu timoedd a mwynhau eu hunain gyda ffrindiau a theulu, dyna’r oll. Ni allwn adael i weithredoedd lleiafrif treisgar ddifetha’r profiad hwn i bawb arall.

 “Ar ôl bod yn Bordeaux dros y penwythnos, cefais brofiad personol o’r awyrgylch anhygoel ynghyd a miloedd o gefnogwyr Cymreig eraill, a rannodd brofiad arbennig yn heddychlon gyda chefnogwyr Slofacia. Dyna beth ddylai pawb ei brofi ym mhob dinas sy’n cynnal gêm."

Llun: Mae ymddygiad cefnogwyr Cymru wedi cael ei ganmol gan bawb yn Bordeaux

 

“Mae Cymdeithas Pêl Droed Cymru wedi cynghori cefnogwyr heb docynnau i beidio teithio i Lens ac i gadw draw o Lille. O ystyried digwyddiadau ym Marseille dros y penwythnos, rhaid i FA Lloegr ddilyn yr esiampl Cymdeithas Pêl Droed Cymru a chyhoeddi datganiad tebyg.”

Rhannu |