Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Mehefin 2016
Gan OWAIN GWILYM

Gwaith argyhoeddi mawr neu bydd ysgariad yn anorfod

Wythnos i heddiw byddwn yn gwybod a fydd y Deyrnas Unedig yn dal yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd ai peidio. Gyda dyddiau’n weddill o ymgyrch hir a digyffro ar lawr gwlad gwneir pob ymdrech i dynnu yma i lawr a chodi draw er mwyn denu’r pleidleiswyr i droi allan. Hon, meddir, yw’r bleidlais fwyaf yn ein hanes.

Mae’r holl ymgyrchu diweddar wedi canolbwyntio ar yr economi. Ddechrau’r wythnos cafwyd sicrwydd gan yr encilwyr na fydd Cymru ar ei cholled wrth adael yr Undeb. Mewn llythyr gan brif ladmeryddion Gadael dywedwyd y bydd llywodraeth Prydain yn talu’r swm cyfatebol i’r hyn mae Cymru’n ei dderbyn o Frwsel gyda’r arian a arbedir o atal ein haelodaeth.

Ymhlith yr enwau dan y llythyr mae sawl gweinidog yn y llywodraeth bresennol yn Llundain. Eu dadl yw y  byddai pethau’n cael eu cynnal yn ‘fwy effeithiol o lawer’ wrth i Lundain dalu a byddent yn medru rhyddau arian ychwanegol i’w wario ar flaenoriaethau eraill.  Maent yn addo hyn tan 2020 ‘neu hyd at y dyddiad y bydd yr Undeb Ewropeaidd yn bwriadu dod â rhaglenni unigol i ben.’

Er mwyn cael rhyw fath o linyn mesur ar hyn mae’n ofynnol edrych ar astudiaeth ddiweddar gan Brifysgol Caerdydd sy’n amcangyfrif fod Cymru, yn 2014 wedi derbyn £245miliwn yn fwy na’r hyn a gyfrannodd i Ewrop.

Mae’r Arhoswyr yn amau holl sylfaen yr addewid hwn ond mae Andrew R T Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi dweud y byddai Cymru’n ddiogel petaem yn gadael y drefn Ewropeaidd. Dywedodd Mr Davies y byddai Cymru yn well ei byd dan oruchwyliaeth newydd, fel y byddai rhanbarthau eraill y Deyrnas Unedig.

Gwelwyd David Cameron ei hun yn encilio o’r dadleuon ddechrau’r wythnos a chyn brif weinidog yn esgyn i’r llwyfan. Fel yn hanes refferendwm yr Alban mae Gordon Brown wedi ymddangos eto i ddweud mae i mewn yn yr Undeb y mae ein lle yn arwain ac nid yn dilyn. Ychydig iawn o waith newid oedd ar yr araith honno a baratödd cyn y bleidlais Albanaidd.  Gellid dadlau fod honno wedi cael effaith.  A fydd ei ‘ymyrraeth’ ar drothwy wythnos olaf ymgych Ewrop yr un mor effeithiol?

Mae’n dangos teimlad fod gormod o gefnogwyr Llafur am ddilyn llwybr Nigel Farage.  Y gŵyn yw na fu digon o arweiniad gan y Blaid Lafur sut y dylai eu haelodau a’u cefnogwyr bleidleisio.  Llugoer ddigon a fu Jeremy Corbyn ynglŷn ag Ewrop ar hyd y blynyddoedd ond cafodd droedigaeth yr wythnos hon drwy ymddangos gyda’i Gabinet i annog pobl Llafur i aros yn Ewrop – er mwyn y swyddi a hawliau’r gweithiwr.

Does dim dwywaith mai’r un peth pwysig sy’n poeni cefnogwyr Llafur fel rheng o’r Ceidwadwyr ac UKIP yw mewnfudo. Ni chrybwyllwyd hynny gan Gordon Brown a phrin fod ei ateb am hynny i newyddiadurwyr ar ôl ei araith am argyhoeddi llawer.  Wrth gwrs, nid yw mewnfudo yn broblem yn yr Alban lle mae Gordon Brown yn byw. Nid yw’n broblem eithafol yng Nghymru er ein bod ni yn ymwybodol o fewnfudwyr ers blynyddoedd maith ac effaith hynny ar gymunedau Cymraeg eu hiaith. Onid gweld hynny a barodd i’r gefnogaeth i Blaid Cymru gynyddu yn yr ardaloedd gwledig yn saithdegau’r ganrif ddiwethaf?

Ar y cyfan mae cefnogwyr y Blaid o blaid aros yn Ewrop er mai ychydig sy’n gweiddi o ben y tai i bawb arall eu cefnogi. Mae ganddynt waith argyhoeddi llawer, pobl fel Gwilym Owen, a gyhoeddodd yn ei golofn yn Golwg ei fod yn gefnogwr Brexit.

Yr arian sy’n mynd i Frwsel sy’n ei boeni ef a ‘codi bwganod yw’r holl sôn am heddwch, difodiant yr economi a dirywiad y byd amaethyddol.’

A phrin fod ymddangosiad George Osborne, a Guto Bebb yn ei dywys o gwmpas Eryri, am argyhoeddi rhai fel y colofnydd fod gwerth mewn aros yn aelod o’r teulu Ewropeaidd.  

Os na fydd newid mawr cyn dydd Iau nesaf mae ysgariad ar y cardiau.

 

Rhannu |