Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Mehefin 2011

Lansio siop un stop ar gyfer y Gymraeg

MAE Prifysgol Bangor wedi lansio Cymorth Cymraeg (www.bangor.ac.uk/cymorthcymraeg), sef adnodd ar wefan y Brifysgol fydd yn cynorthwyo staff a myfyrwyr i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith.

Bydd Cymorth Cymraeg yn ‘siop-un-stop’ arbennig ar gyfer y Gymraeg ar wefan y Brifysgol.

Bydd dwy brif adran y wefan yn cynnig adnoddau ysgrifennu a siarad, yn cynnwys templedi ar gyfer negeseuon e-bost a ffeiliau sain i helpu gydag ynganu’r Gymraeg.

Bydd y tudalennau newydd yn cynnig cefnogaeth ymarferol i staff ac yn rhoi hyder iddynt roi’r iaith ar waith. Cafodd y wefan ei lansio’n swyddogol gan Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro G. John Hughes.

Wrth dynnu sylw at arwyddocâd y wefan, meddai: ‘Rwyf yn croesawu’r datblygiad hwn yn fawr.

“Mae Prifysgol Bangor yn sefydliad sy’n rhoi gwerth ar sgiliau iaith Gymraeg ac sy’n annog staff a myfyrwyr i ddatblygu a chynnal y sgiliau hynny.

“Mae sgiliau Cymraeg fy nghydweithwyr yn hollbwysig o ran galluogi’r sefydliad i weithredu’n ddwyieithog a bydd Cymorth Cymraeg yn adnodd gwerthfawr iddynt yn eu gwaith o ddydd i ddydd.

“Ar lefel bersonol, wrth i mi ddysgu Cymraeg a defnyddio’r iaith fwyfwy yn fy ngwaith, byddaf yn sicr o droi at y wefan am arweiniad a chymorth.”

Cafodd y wefan ei datblygu yng Nghanolfan Bedwyr, canolfan gwasanaethau Cymraeg y Brifysgol.

Dywedodd Dr Llion Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan: ‘Gyda strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg yn rhoi pwyslais sylweddol ar hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg, rydym yn gobeithio y bydd y datblygiad cyffrous hwn yn gyfraniad ymarferol tuag at gyflawni’r nod hwnnw ym Mhrifysgol Bangor, ac yn cynnig patrwm posib ar gyfer sefydliadau eraill.’

Rhannu |