Mwy o Newyddion

RSS Icon
13 Mehefin 2016

Plaid Cymru - Ewrop yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i’n pobl ifanc

Mae aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd yn golygu mwy o gyfleoedd i’n pobl ifanc, meddai Plaid Cymru.

Dywedodd Llyr Gruffydd AC, Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Addysg, fod y cynllun Erasmus Plus yn sicrhau cyfleoedd i’n pobl ifanc astudio a theithio dramor mewn dinasoedd Ewropeaidd megis Barcelona yng Nghatalonia, yn ogystal â hyrwyddo cydweithio rhyngwladol ym mhob agwedd o addysg, o ymchwil prifysgol i brentisiaethau i athrawon ysgol.

Dywedodd Llyr Gruffydd AC: “Mae Cymru’n elwa o £245m y flwyddyn diolch i’n haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd, ond mae hyd yn oed mwy o fuddiannau i’w mwynhau yn sgil aelodaeth o’r UE.

“Mae rhaglen Erasmus Plus, a enwyd ar ol gwneuthurwr mapiau o’r Iseldiroedd, yn dangos sut y gall ein pobl ifanc, ein prifysgolion a’n hysgolion ddysgu gan eraill yn Ewrop – a bwydo’r wybodaeth hynny nol i ni yma yng Nghymru.

“Pan fyddwn yn dysgu am arfer da ledled Ewrop, gallwn ddysgu o hynny ein hunain a gwneud pethau’n well – boed hynny’n ddysgu o addysg blynyddoedd cynnar yn y Ffindir neu bolisiau ynni adnewyddadwy mewn gwledydd megis Denmarc, Yr Almaen a’r Iseldiroedd.

“Drwy roi’r cyfle i’n pobl ifanc astudio neu hyfforddi dramor ar gynlluniau cyfnewid maent yn cael profi sawl persbectif gwahanol fydd yn siapio eu dyfodol gan ddychwelyd gyda mewnwelediad newydd i helpu ein cymunedau.

“Mae dysgu drwy brofiadau yn bwysig. Mae treulio blwyddyn mewn dinas Ewropeaidd megis Barcelona a datblygu gwell dealltwriaeth o sut mae Catalonia’n gweithio yn wahanol iawn i ddarllen llyfr am hynny.

“Mae Plaid Cymru eisiau i fwy o brofiadau o’r fath fod ar gael – er mwyn i’n hysgolion ymweld ag a dysgu am wledydd eraill, i brentisiaethau gael hyfforddiant ar ddatblygiadau newydd ble bynnag fo hynny ar gael, ac i’n prifysgolion gydweithio gyda’r ymchwilwyr gorau sydd gan Ewrop i’w gynnig.

“Dyma enghraifft arall o’r buddiannau o weithio gydag Ewrop a dyna pam mai pleidlais i Aros yn yr UE sydd orau i Gymru.”

Rhannu |