Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Mehefin 2016

Cwymp o 20% mewn allforion yn dangos fod y llywodraeth Lafur yn gwneud tro gwael ag economi Cymru

Wrth i werth allforion Cymreig barhau i ddisgyn dan y llywodraeth Lafur hon, mae gweinidog cysgodol  Plaid Cymru dros Gyllid a’r Economi, Adam Price, wedi galw am strategaeth allforio newydd i wrthdroi’r cyfnod hwn o ddirywiad.

Dengys ffigyrau newydd a gyhoeddwyd gan yr Adran Dollau a Chyllid fod gwerth allforion Cymreig wedi disgyn o ryw 20% dros ddwy flynedd.

Mae Ystadegau Masnach Rhanbarthol y DG yn datgelu fod gwerth allforion o Gymru dros y cyfnod blynyddol hyd at ddiwedd Mawrth 2016 wedi gostwng o £826m, gostyngiad o 6.5% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Yn y cyfamser, cynyddodd gwerth allforion yn Lloegr a Gogledd Iwerddon o 939m a £548m dros yr un cyfnod.

Dywedodd Adam Price ei bod yn bryd gweithredu cynlluniau Plaid Cymru am gorff masnachu newydd i gynyddu allforion a gwerthu Cymru i’r byd.

Meddai: “Maer gwerth allforion Cymru wedi gostwng yn frawychus dan y llywodraeth hon o dros £2.6bn mewn dwy flynedd.

"Mae hyn yn ostyngiad enfawr mewn allforion o bron i 20% ar adeg pan fo cenhedloedd eraill yn y DG, o’u cymharu, wedi llwyddo i’w cynyddu.

“Mae Plaid Cymru eisiau gweithio gyda diwydiant i sefydlu corff masnachu newydd fydd yn mynd ati i chwilio am fuddsoddiadau.

"Bydd yr ADC newydd yn gadael i ni helpu cwmnïau cynhenid Cymreig i werthu eu cynhyrchion a’u syniadau i’r byd.

“Yn hanesyddol, bu Cymru yn genedl oedd yn allforio, gan allforio mwy nac yr oeddem yn fewnforio ac yn gwneud yn well na chenhedloedd eraill y DG. Ond dan arweiniad Llafur, mae lefelau allforio wedi plymio.

“Yn hollol wahanol i’r ffigyrau brawychus hyn, rhwng 2007-2011 pan oedd Ieuan Wyn Jones o Blaid Cymru yn Weinidog dros  yr Economi, cynyddodd  allforion Cymru o bron i £4.4bn, sef cynnydd o  33% . 

“Mae angen i Lafur fod yn uchelgeisiol fel ni a chyflwyno strategaeth economaidd ac allforio newydd fydd yn creu twf economaidd i’n cenedl.”

Rhannu |