Mwy o Newyddion
Plaid Cymru yn dymuno pob lwc i dimau cenedlaethol Cymru ar drothwy Sadwrn Sblennydd
Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood a’r Gweinidog Cysgodol dros Dwristiaeth a Chwaraeon Neil McEvoy wedi anfon negeseuon o gefnogaeth i dimau pêl-droed a rygbi cenedlaethol Cymru wrth iddynt gychwyn ar eu hymgyrchoedd proffil uchel.
Wrth i dîm pêl-droed Cymru baratoi i gystadlu ym Mhencampwriaethau Pêl-Droed Ewrop, ac i’r tîm rygbi gychwyn ar eu taith i Seland Newydd, dywedodd Neil McEvoy fod gan ddilynwyr chwaraeon Cymru wythnosau cyffrous iawn o’u blaenau.
Bydd y ddau dîm yn chwarae yfory ar ddiwrnod a alwyd yn Sadwrn Sblennydd.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood: “Yn sicr, fe fydd gan ddilynwyr chwaraeon Cymru ddiwrnod i’w gofio yfory, ac yr wyf hyn dymuno pob lwc i’r timau pêl-droed a rygbi.
“Wrth fynd drwodd i bencampwriaethau Ewrop, nid yn unig y mae Chris Coleman a’i dîm wedi codi calon y genedl gyfan, ond maent wedi creu hanes ac wneud gwneud yn siŵr fod y byd pêl-droed yn cymryd sylw o’n gwlad.
“Mae’r tîm wedi ysbrydoli cenhedlaeth newydd o bobl ifanc i gymryd at bêl-droed gan fod ganddynt yn awr res o esiamplau i ymgyrraedd atynt a cheisio eu dynwared. Ac y maent wedi talu’n ôl am deyrngarwch llawer fu’n gefnogwyr ers amser maith sydd yn awr yn gallu cefnogi eu tîm mewn pencampwriaeth o bwys am y tro cyntaf yn eu bywydau.
“Mae’r chwaraewyr hyn yn llysgenhadon gwych dros Gymru, ac yr wyf yn gobeithio y caiff y tîm a’r cefnogwyr sy’n teithio yno daith hapus, ddiogel a phleserus.”
Dywedodd Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Dwristiaeth a Chwaraeon Neil McEvoy : “Rwy’n dymuno pob lwc i’n timau cenedlaethol wrth iddynt baratoi am eu gemau mawr yfory.
"Bydd gan ddilynwyr y campau yng Nghymru haf arbennig o chwaraeon o’u blaenau, ac yr wyf i’n edrych ymlaen at gefnogi ein timau bob cam o’r ffordd.
“Nid yn unig y mae camp hanesyddol y tîm pêl-droed yn mynd drwodd i un o’r prif bencampwriaethau yn llwyddiant ysgubol i bêl-droed yng Nghymru, ond y mae hefyd yn ddigwyddiad mawr yn hanes chwaraeon yng Nghymru.
"Bu llwyddiant y chwaraewyr, y rheolwr a Chymdeithas Pêl-droed Cymru yn wych, a ‘ngobaith i yw y byddant yn mynd i Ffrainc, yn chwarae pêl-droed gyda gwên ar eu hwynebau, ac yn ennyn balchder ynom i gyd.”