Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Mehefin 2016

Hywel Williams yn cymryd camau yn San Steffan i herio Trinity Mirror dros dorri swyddi

Mae Arweinydd Seneddol Plaid Cymru ac Aelod Seneddol Arfon Hywel Williams AS, wedi mynegi ei bryder fod safon newyddiaduraeth yn cael ei erydu gan agenda o doriadau sy’n rhoi mewn perygl egwyddorion sylfaenol newyddiaduraeth ymchwiliol; sef dwyn llywodraethau a gwleidyddion pwerus i gyfrif.

Mae Hywel Williams AS, sydd hefyd yn aelod o Bwyllgor Aml Bleidiol Seneddol (APPG) yr NUJ, wedi cyflwyno Cynnig gerbron y Senedd yn beirniadu penderfyniad Trinity Mirror i gael gwared â swyddi yng ngogledd Cymru ynghyd â’r unig ohebydd ym Mae Caerdydd.   

Mae’r Cynnig eisioes wedi derbyn cefnogaeth trawsbleidiol gan Lafur a’r SNP.

Dywedodd Arweinydd Seneddol Plaid Cymru Hywel Williams AS:  “Mae hwn yn gam sylweddol yn ôl i’r papur, sy’n anelu at wasanaethu pobl gogledd Cymru.

“Mae’n hynod bwysig fod gweithredoedd Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad yn cael eu craffu a fod gwleidyddion yn cael eu dwyn i gyfrif am yr hyn y maent yn ei wneud. Mae rôl gohebydd y Senedd yn hanfodol yn hyn o beth.

“Wrth gael gwared â llais annibynnol o Fae Caerdydd fe leheir lefel y craffu yn sylweddol gan agor y drws i hunanfodlonrwydd a difaterwch. Mae hyn yn niweidiol i ddemocratiaeth ac yn gwneud tro gwael â pobl Cymru.”   

Ychwanegodd Aelod Cynulliad Arfon Siân Gwenllian AC: “Mae democratiaeth yn ffynnu dan graffu newyddiadurwyr ac mae’r penderfyniad yma yn gam niweidiol i’r cyfeiriad anghywir i newyddiaduraeth ac i’r Cynulliad.

“Mae cael gwared â gohebydd y Daily Post o’r Cynulliad yn amddifadu darllenwyr y Daily Post ynghyd ag etholwyr gogledd Cymru.

“Mae llawer eisioes yn teimlo’n bell o’r hyn sy’n digwydd ym Mae Caerdydd ac mae mewnwelediadau gohebydd y Daily Post o’r Bae yn hynod bwysig. Rwy’n annog Trinity Mirror i ail-ystyried eu penderfyniad.”

Dywedodd Paul Scott, Swyddog Gweithredol yr NUJ yng Nghymru a chadeirydd cangen undeb gogledd Cymru: “Rwy’n croesawu Cynnig Seneddol Hywel Williams ac yn falch fod gwleidyddion yn dod yn fwy amheus o ddatganiadau gan gwmniau mawr yn enwedig pan ddaw i ymrwymiadau ynghylch dyfodol cyfryngau rhanbarthol a lleol.

“Mae ein haelodau ni yn Trinity Mirror Gogledd Cymru yn bryderus iawn am ddyfodol y teitlau y maent yn gweithio arnynt, gyda llawer ohonynt wedi ennill gwobrau cenedlaethol tra bod morâl ar ei lefel isaf erioed.

“Mae ail-strwythuro golygyddol cyson yn rhoi newyddiadurwyr unigol mewn sefyllfaoedd ansicr iawn ac maent yn ystyried toriadau i adnoddau fel ymosodiad ar y papurau newydd y maent yn gweithio arnynt.

“Mae penderfyniad Trinity Mirror Gogledd Cymru i dynnu ei gohebydd materion Cymreig o Fae Caerdydd wedi rhyfeddu ein haelodau gan nad yw’n ymddangos fod unrhyw fudd cost yn gysylltiedig â’r penderfyniad ond bydd yn gwanhau y sylw a roddir i Gynulliad Cymru a sefydliadau Cymreig pwysig eraill.

“Ymddengys fod Trinity Mirror yn symud ymhellach ac ymhellach i ffwrdd oddi wrth y materion y mae’r papurau newydd yn adrodd arnynt ac o'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

"Rwy'n galw ar y cwmni i siarad â'n haelodau yng Ngogledd Cymru i fynd i'r afael â'u pryderon am lefelau staffio a dyfodol papurau lleol.

"Gofynaf hefyd i’r rheolwyr ail-ystyried y penderfyniad i ail-leoli swydd gohebydd gwleidyddol Cymru a phrofi i ni gyd fod y cwmni yn parhau i fod yn ymroddedig i wasanaeth newyddiaduraeth cyhoeddus sy'n dwyn y pwerus a’r dylanwadol i gyfrif.”

Rhannu |