Mwy o Newyddion

RSS Icon
09 Mehefin 2016

Cadw’n iach yn y tywydd cynnes

Mae Dr Chris Jones, y Prif Swyddog Meddygol dros dro, wedi dweud bod angen i bobl feddwl yn ofalus am sut i gadw’n iach, ac osgoi gorboethi, yn y tywydd cynnes diweddar. 

Yn ôl Dr Jones, sy’n gardiolegydd wrth ei waith bob dydd: “Rydyn ni wedi gweld cynnydd mawr yn nifer y bobl sy’n ymweld ag adrannau damweiniau ac achosion brys gyda chyflyrau yn gysylltiedig â’r galon ac anadlu a thwf, yn sgil hynny, yn nifer y bobl sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty.

“Mae yna rai camau syml sy’n bosibl eu cymryd i sicrhau bod plant a babanod, pobl hŷn a’r rheini â chyflyrau iechyd hirdymor, yn enwedig y rheini â chyflyrau ar y galon a chyflyrau anadlol, yn cadw’n iach.

“Cadwch allan o’r haul rhwng 11am a 3am pan fo’r haul ar ei gryfaf, a defnyddiwch eli haul ffactor uchel. Bydd gwisgo dillad llac, ysgafn a het pan fyddwch chi y tu allan hefyd yn helpu i’ch amddiffyn rhag gorboethi a dioddef o drawiad haul.

“Mae angen i bobl sy’n cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol fod yn ymwybodol hefyd o’r hyn y gallan nhw ei wneud i beidio â gorboethi a dylent sicrhau eu bod yn yfed digon o ddŵr. Yfwch ddigon o ddŵr, neu yfwch ddiodydd oer eraill fel sudd ffrwythau yn rheolaidd ac osgowch de, coffi ac alcohol. 

“Gall cymryd bath neu gawod oer, neu dasgu dŵr oer drostoch chi eich hun neu roi eich arddyrnau o dan dap dŵr oer eich helpu os byddwch yn dechrau gorboethi.  

“Peidiwch ag anghofio cadw golwg ar eich ffrindiau, perthnasoedd a chymdogion: mae pobl hŷn a phobl ag anhawster symud yn fwy tebygol o gael eu heffeithio gan y tywydd cynnes. 

“Gall mynd allan i’r haul wir godi calon ond peidiwch ag anghofio yfed digon o ddŵr a meddyliwch am beth y gallwch ei wneud i gadw’n iach yn y tywydd cynnes.”
 

Rhannu |