Mwy o Newyddion

RSS Icon
09 Mehefin 2016

Darganfod adfeilion cynhanesyddol yn Sain Tathan, Bro Morgannwg

Mae archaeolegwyr wedi dadorchuddio olion cynhanesyddol yn ystod ymchwiliad archaeolegol yn Sain Tathan, Bro Morgannwg.

Gwnaed y darganfyddiad gan yr ymgynghorwyr archaeolegol arbenigol, APAC Ltd, ar safle Llys Tathana – datblygiad o gant o dai newydd gan gwmni Barratt Homes.

Daeth nifer o nodweddion archaeolegol cynhanesyddol i’r fei wedi codi’r haen uchaf o bridd ar ddechrau’r gwaith adeiladu.

Wedi ymgynghori â’r datblygwr, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent ac Amgueddfa Cymru, mae APAC Ltd wedi dechrau’r gwaith datgloddio.

Bydd y darganfyddiadau yn cael eu cofnodi’n ofalus, gydag unrhyw wrthrychau a samplau amgylcheddol perthnasol yn dod o’r ystod o nodweddion cynhanesyddol gaiff eu dadorchuddio.

Cyn dechrau ar y gwaith adeiladu mae’r datblygwyr yn cydweithio’n agos â’r archaeolegwyr i glirio, datgloddio a chofnodi’r archaeoleg ac ymchwilio i’r darganfyddiadau. 

Yn un o’r ardaloedd cyntaf i gael ei chlirio a’i chofnodi yn llawn, dadorchuddiwyd heneb gynhanesyddol. Mae’r ffos fas, wastad ar siâp cylch tua 7m o ddiametr ac wedi’i chloddio i’r sylfaen galchfaen.

Nid yw’r cylch yn gyflawn gan fod yno un bwlch – mynedfa o bosibl.

Yn y cylch canfuwyd nifer o bantiau bychan oedd yn cynnwys gweddillion crochenwaith a fflint.

Ar yr olwg gyntaf, mae’n ymddangos bod y rhain yn wrthrychau nodweddiadol o’r cyfnod Neolithig, sy’n awgrymu bod y strwythur yn cael ei ddefnyddio oddeutu 5,400-4,400 o flynyddoedd yn ôl (3,400-2,400 CC).

Yn ddiweddarach, cloddiwyd ffos syth drwy’r heneb wreiddiol. Credir bod y ffos hon hefyd yn strwythur cynhanesyddol.

Yn y cyfnod Neolithig y gwelwyd y Ffermwyr cyntaf yng Nghymru. Mae’n debyg taw lleoliadau ar gyfer defodau oedd strwythurau crwn fel y rhain. Mae nhw’n aml yn elfennau cynnar o strwythurau claddu ehangach yr Oes Efydd.

Bydd y cloddio archaeolegol yn parhau dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf gyda unrhyw ddarganfyddiadau yn cael eu cyhoeddi mewn da bryd.

Dywedodd Dr Neil Phillips, Cyfarwyddwr APAC Ltd: “Mae’r safle yn gyfle hynod i gasglu llawer o ddata dros ystod o gyfnodau cynhanesyddol.

"Mae hwn yn gyfle prin iawn ac mae unrhyw archaeoleg fel arfer yn diflannu cyn iddo gael ei werthfawrogi’n llawn.

"Rydyn ni’n ddiolchgar i’r datblygwr am eu cydweithrediad positif parhaus, syn ein galluogi i ymchwilio i’r adfeilion a’u cofnodi.”

Dywedodd Adam Gwilt, Prif Guradur Cynhanes Amgueddfa Cymru: “Mae’r darganfyddiad yn darparu tystiolaeth bwysig newydd am fywyd a marwolaeth cymunedau ffermio cynnar Bro Morgannwg.

"Rydyn ni’n hynod falch bod y datblygwr yn rhoi canfyddiadau’r cloddio i Amgueddfa Cymru, ynghyd â’r archif gysylltiedig.”

Ychwanegodd Steve Williams, Rheolwr-gyfarwyddwr Barratt Homes: “Gwnaed nifer o ddarganfyddiadau diddorol ac rydyn ni wrth ein bodd y bydd Amgueddfa Cymru yn gofalu am y gwrthrychau a’r cofnodion archaeolegol.

"Mae Bro Morgannwg yn frith o hanes ac mae cadw gweddillion pwysig sy’n taflu goleuni ar hanes Sain Tathan yn bwysig i ni.

"Byddwn ni’n parhau i gydweithio’n agos â’r timau archaeolegol dros y misoedd i ddod i sicrhau ein bod yn datgloddio, cofnodi a chyhoeddi pob canfyddiad yn ofalus.”

Rhannu |