Mwy o Newyddion
Llofruddiaeth yn y Llyfrgell
Tra bod adeilad y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yn adnabyddus i’r mwyafrif o Gymry mae ei enwogrwydd am gynyddu’n sylweddol dros y misoedd nesaf wrth iddo gael y statws o fod yn seren ffilm. Mae Y Llyfrgell wedi ei seilio ar nofel boblogaidd Fflur Dafydd o’r un enw a hon yw ffilm fawr gyntaf y cyfarwyddwr nodedig, Euros Lyn.
Wedi ei disgrifio fel “offbeat thriller”, a’i lleoli yn y Llyfrgell Genedlaethol, mae’r ffilm yn cyflwyno rhai o’r cyfrinachau a’r celwyddau sydd wrth galon stori dda, gan ofyn pwy mewn gwirionedd sydd â’r hawl i ddweud yr hanes. Mae wedi ei henwebu yng nghategori y ffilm orau Brydeinig yng ngŵyl ffilm Caeredin tra bod un o’i sêr, yr actores Catrin Stewart, wedi ei henwebu am y perfformiad gorau mewn ffilm Brydeinig. Caiff y ffilm ei gweld gyntaf yng Nghymru mewn dangosiad arbennig yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau yn y Fenni.
Tra bod enw Euros Lyn yn ddigon cyfarwydd yn dilyn llwyddiannau fel Doctor Who a Broadchurch mae enillydd gwobr arbennig Bafta Cymru yn cyfaddef fod ‘na ychydig o nerfusrwydd wrth i’r dyddiad agosau,
“Pleser pur oedd cael gweithio ar y ffilm hon – roedd cymaint amdani’n apelio. Rwy’n ffan mawr o’r genre hwn, ac ro’n i’n hynod gyffrous o gael creu ‘thriller’ yn y Gymraeg. Ychwanegwch at hynny y cyfle o gael ffilmio mewn adeilad mor hudol â Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’i naws atmosfferig a’i leoliad yn teyrnasu dros dref Aberystwyth? Allwn i ddim wedi gofyn am well. Y cyfan allai obeithio nawr yw y bydd y gynulleidfa yn mwynhau’r gwylio cymaint ag y gwnes i fwynhau’r gweithio.”
Wedi i’r awdures enwog, Elena Wdig (Sharon Morgan), ladd ei hunan, mae ei dwy ferch, Nan ac Ana , y ddwy yn efeilliaid (gaiff eu portreadu gan Catrin Stewart), ac yn llyfrgellwyr, yn naturiol yn teimlo ar goll hebddi. Mae geiriau olaf Elena’n awgrymu mai ei chofiannydd, Eben (Ryland Teifi)a’i lladdodd . Felly, yn ystod un shifft waith gyda’r nos, mae’r efeilliaid yn cychwyn ar ymchwiliad i’r llofruddiaeth yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru er mwyn dial am farwolaeth eu mam, ond pwy ddaw ar eu traws ond Dan, y porthor nos (Dyfan Dwyfor), a chaiff yntau ei lusgo i mewn i’r saga.
Caiff y ffilm ei seilio ar nofel Fflur Dafydd, Y Llyfrgell, a dderbyniodd Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala yn 2009,
“Fel ffilm y dychmygais y stori hon yn wreiddiol, felly mae gweld hynny yn cael ei wireddu yn brofiad gwych. Mae’r ffaith mai yn yr Eisteddfod Genedlaethol y caiff ei dangos yn gyntaf yng Nghymru, eto yn hyfryd i fi, gan mai dyma lle gwelodd y nofel olau dydd am y tro cyntaf saith mlynedd yn ôl. Mae cael bod yn gynhyrchydd ar y ffilm wedi bod yn gyfle gwerth chweil ac rwy’n edrych ymlaen yn awr i weld y cynnyrch gorffenedig ar y sgrin fawr yn y Fenni.”
Caiff y ffilm ei dangos yn sinema’r Fenni ar nos Lun, 1 Awst, ac mae tocynnau ar werth o ddydd Llun, 13 Mehefin drwy swyddfa docynnau’r Eisteddfod Genedlaethol. Yn ôl Elen Elis, Trefnydd yr Eisteddfod maent yn falch o allu cefnogi’r digwyddiad,
“Mae hybu celfyddyd Gymraeg wrth wraidd holl waith yr Eisteddfod a phan glywon ni am y ffilm hon ro’n ni’n awyddus iawn i gynorthwyo er mwyn sicrhau y caiff gynulleidfa deilwng. Mae arlwy yr Eisteddfod bellach yn hynod amrywiol gyda rhywbeth at ddant pawb ac mae ffilm o’r fath wedi ei lleoli mewn adeilad mor adnabyddus yn siwr o ddenu’r gwylwyr.
“Mae’r ffaith bod y ffilm yn seiliedig ar un o weithiau buddugol yr Eisteddfod yn bwysig iawn, ac yn dangos y potensial sydd yma yng Nghymru i ddatblygu gweithiau o safon ymhellach. Mae’r ffilm yn waddol arbennig i’r nofel ac i’r Eisteddfod, ac rydym yn llongyfarch Fflur ac Euros yn fawr ac yn edrych ymlaen i weld y gwaith gorffenedig.
Yn dilyn yr Eisteddfod caiff y ffilm ei dangos yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth a Chanolfan Chapter, Caerdydd (5-11 Awst) a chaiff lleoliadau eraill ar draws Cymru eu cyhoeddi’n fuan.
I gyd-fynd â’r dangosiadau yn Aberystwyth caiff teithiau tywys eu trefnu yn y Llyfrgell Genedlaethol fel y gall pobl ymweld â’r set wedi gweld y ffilm fel yr eglura Prif Weithredwr y Llyfrgell, Linda Tomos,
“Dyma’r tro cyntaf i ffilm hir gael ei gosod yn y Llyfrgell ond nid yr olaf mae’n siwr. Bydd yn siwr o danio dychymyg y gwylwyr felly mae’r teithiau arbennig byddwn yn trefnu yn rhoi cyfle iddynt fynd tu ôl i’r llenni fel petai a gweld yr amryw lleoliadau. Mae pensaernïaeth yr adeilad yn naturiol yn cyfleu naws o ddirgelwch ac mae pawb yma yn edrych ymlaen yn arw at gael ei gweld.”
Hon yw’r drydedd ffilm i gael ei gwneud gan Cinematic, cynllun talent newydd Ffilm Cymru Wales. Dyfeisiwyd a datblygwyd Cinematic mewn partneriaeth â’r BFI Film Fund, BBC Films, Creative Skillset, Edicis, a Soda Pictures ac S4C. Mae’r cynllun hwn yn cefnogi talent creu ffilmiau newydd yng Nghymru, gyda’r bwriad o greu cynhyrchiadau cyfoes, deinamig ac arloesol a dyma’r cyntaf i gael ei ffilmio yn yr iaith Gymraeg. Soda Pictures sydd â’r hawliau dosbarthu yn y DG ac Iwerddon, ac S4C fydd yn gyfrifol am ei darlledu rywdro yn y dyfodol.